Y diweddaraf

Peidiwch oedi cyn adrodd ar broblem

07 Ebr 2026

Mae Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) yn set o reolau y mae’n rhaid i bob landlord cymdeithasol eu dilyn i sicrhau bod eich cartref yn ddiogel, yn iach ac yn gyfforddus.  Mae rheolau newydd SATC yn golygu bod landlordiaid yn gorfod ymateb i risgiau iechyd a diogelwch o fewn amser penodol.   Beth mae hyn yn ei olygu i chi?   Y peth pwysicaf ydi:  Rhoi gwybod am unrhyw broblem cyn gynted ag y gallwch, yn enwedig os ydych chi’n meddwl ei bod yn berygl i’ch diogelwch.   Cofiwch:  Peidiwch oedi cysylltu â ni, hyd yn oed os oes gennych bryderon eraill fel ôl-ddyledion rhent.  Ein blaenoriaeth yw eich cadw’n ddiogel yn eich cartref.  Y cynharaf byddwch yn riportio rhywbeth, y mwyaf cyflym y gallwn ni ddelio ag o.  I adrodd ar broblem, ffoniwch 0300 111 2122  

Cryfhau’r Tîm Tai gydag arweinyddiaeth newydd a chynllun recriwtio

24 Maw 2026

Mae Grŵp Cynefin wedi cyhoeddi newidiadau cyffrous o fewn ei Adran Tai, gyda phenodiadau arweinyddiaeth newydd a chamau i gryfhau’r tîm sy’n gyfrifol am gefnogi tenantiaid a chynnal tenantiaethau.  Mae Grŵp Cynefin yn berchen ar dros 5,000 o gartrefi, gyda mwy na 10,000 o denantiaid ar draws chwe sir yng ngogledd Cymru a gogledd Powys.   Mae’r sefydliad wedi penodi Rhiannon Dafydd yn Bennaeth Tai newydd, gan ddod â ffocws clir ac egni ffres o gylch cefnogi tenantiaid, atal ôl-ddyledion a helpu pobl i gynnal cartrefi diogel a sefydlog. Yn ogystal â hyn, mae Awel Morris wedi camu i rôl o Arweinydd y Tîm Lles Ariannol, gan helpu i lunio dulliau effeithiol o gasglu incwm gan ganolbwyntio ar y person a chefnogi tenantiaethau.  Ar hyn o bryd mae Grŵp Cynefin hefyd yn recriwtio tri Swyddog Casglu Incwm i ymuno â’r tîm. Mae’r swyddi wedi’u lleoli yn swyddfeydd Grŵp Cynefin yn Y Bala, Dinbych a Phenygroes ger Caernarfon. Mae dwy swydd amser llawn ac un swydd rhan-amser ar gael.  Dywedodd Rhiannon Dafydd, Pennaeth […]

Ymweliad i weld cynnydd cartrefi newydd Grŵp Cynefin yn Ninbych

23 Maw 2026

Roedd cyfle heddiw (Dydd Llun, Mawrth 23) i Grŵp Cynefin arwain partneriaid o gylch safle fydd yn darparu 11 cartref carbon-isel yn nhref Dinbych. Bu prif swyddogion Grŵp Cynefin, Cyngor Sir Ddinbych, a’r contractwyr NWPS o’r Rhyl yn ymweld â datblygiad Stryd Henllan i weld y cynnydd ar y safle. Bydd y cynllun yn darparu […]

Dathlu Wythnos Prentisiaethau Cymru 2026 drwy rannu profiadau prentisiaid Grŵp Cynefin   

10 Chw 2026

Mae Grŵp Cynefin yn nodi Wythnos Prentisiaethau Cymru 2026 drwy rannu profiadau prentisiaid a chodi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd gwaith sydd ar gael o fewn y maes tai.  Drwy gydol yr wythnos, bydd tîm Grŵp Cynefin yn ymweld â digwyddiadau ar draws gogledd Cymru i gwrdd â myfyrwyr, trafod llwybrau gyrfa ac amlygu rôl hanfodol prentisiaethau yn natblygiad […]

Beth arall sy'n newydd?

Tai Gofal Ychwanegol

Cookie Settings