Camau i Gyflogaeth
Mae’r grant Camau i Gyflogaeth ar gael i roi cymorth i oresgyn rhwystrau yn ymwneud ag addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.
Beth yw’r grant Camau i Gyflogaeth?
Mae’r grant Camau i Gyflogaeth ar gael i roi cymorth i denantiaid a defnyddwyr gwasanaeth Grŵp Cynefin i oresgyn rhwystrau yn ymwneud ag addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.
Rydym eisiau gwneud gwahaniaeth i’ch bywyd chi drwy eich cefnogi ar eich taith i gyflogaeth.
Dyma rai o’r pethau y gallech dalu amdanynt gyda’r grant:
- Offer i helpu dechrau neu ddatblygu busnes eich hun
- Gofal plant byr‐dymor i helpu chi weithio, hyfforddi neu astudio (amodau)
- Deunyddiau cwrs a chostau cysylltiol
- Beic neu drwydded bws i helpu chi gyrraedd gwaith
- Dillad cyfweliad/ gwaith ar gyfer y cyfweliad holl bwysig neu swydd newydd
- Costau teithio i gyfweliadau
- Cyrsiau hyfforddiant a chymwysterau arbenigol
Mwy o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu ymholiad yn ymwneud â’r grant, cysylltwch â’r Tîm Mentrau Cymunedol yn Grŵp Cynefin
0300 111 2122