Hyfforddiant, cyflogaeth a sgiliau
Rydym ni eisiau gweld pobl leol yn gwella eu sgiliau ac er mwyn gwneud hynny, rydym yn cynnig cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth.
Mi allwn ni eich cefogi a’ch arwain i hyfforddiant a chyflogaeth.
Rydym eisiau eich helpu fod yn barod at waith – boed hynny yn cael yr hyder i gamu i mewn i waith am y tro cyntaf, camu ymlaen yn eich gyrfa neu ar ôl seibiant gyrfa.
Gall ein Swyddog Hyfforddiant a Chyflogaeth:
- Eich cefnogi i baratoi am gyfweliad swydd.
- Eich cyfeirio at wybodaeth er mwyn cael cymorth ychwanegol 1-1 pwrpasol e.e Gyrfa Cymru, Grwp Llandrillo Menai.
- Eich helpu i ateb cwestiynau mewn cynlluniau cyflogaeth a hyfforddiant llywodraethol.
- Cynnig cymorth a syniadau i gwblhau cais am grant Camau i Gyflogaeth.
Am fwy o fanylion, cysylltwch â Ieuan Davies:
0300 111 2122
Swyddog hyfforddiant a chyflogaeth wrth ddesg yn siarad gyda merch ifanc
Grant Camau i Gyflogaeth
Mae’r grant Camau i Gyflogaeth ar gael i roi cymorth i denantiaid a defnyddwyr gwasanaeth Grŵp Cynefin i oresgyn rhwystrau yn ymwneud ag addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.