Cynaladwyedd Amgylcheddol
Yng Nghymru, mae gennym Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol ac rydym ni eisiau gwneud ein gorau i sicrhau cynaladwyedd hir dymor ein cymunedau, gan gynnwys cynaladwyedd amgylcheddol.
Strategaeth Cynaliadwyedd
Wardeiniaid Ynni
Mae Grŵp Cynefin wedi addunedu i leihau allyriadau carbon o 4% bod blwyddyn hyd at gyflawni sero net* erbyn y flwyddyn 2044.
Mae’r rhain i gyd yn cyd-fynd gyda’r adduned sy’n rhan o strategaeth cynaliadwyedd newydd Grŵp Cynefin. Yn ogystal â lleihau’r allyriadau o 4% o flwyddyn i flwyddyn a chyflawni sero net* erbyn 2044, mae’r strategaeth hefyd yn anelu i gyflawni’r canlynol:
- Datblygu cynllun ‘retrofit’ ar gyfer eu cartrefi presennol
- Adeiladu cartrefi newydd i safon carbon isel neu ddi-garbon
- Datblygu eu rhaglen Wardeiniaid Ynni i gynorthwyo a chynghori tenantiaid ar y daith i sero net
- Lleihau allyriadau fflyd drwy newid i gerbydau allyriadau isel neu ddim allyriadau o gwbl
- Polisi gweithio hyblyg i gwtogi ar filltiroedd staff ac allyriadau yn y gweithle
- Buddsoddi mewn sgiliau a llythrennedd carbon i staff a chwsmeriaid
- Cyflwyno goleuadau LED a mesuryddion clyfar
- Ceisio gosod ynni adnewyddadwy ar-safle yn eu swyddfeydd a safleoedd gweithredu eraill
Cymerwch olwg ar Strategaeth Cynaliadwyedd Grŵp Cynefin isod
Un o’n prif gynlluniau yw Wardeinaid Ynni – sy’n cynnig cyngor di-duedd ar arbed ynni.
Os ydych chi’n chwilio am ychydig o gymorth a chyngor i arbed arian, mi allwn ni eich helpu.
Mi allwn ni:
- eich helpu i arbed ynni yn y cartref
- esbonio biliau a thariffau i chi
- eich cynorthwyo i wneud cais am grantiau perthnasol
- Trefnu a chefnogi digwyddiadau cymunedol lleol
- cynnig cefnogaeth gyda cheisiadau Nyth (sector breifat)
- eich cyfeirio at asiantaethau 3ydd sector eraill pan nad ydym ni’n gallu helpu
Cymorth gyda ‘Help Scheme’ Dŵr Cymru os yn gymwys – gostyngiad o £250 yn eich bil dŵr.
Mi allwn ni helpu gyda cais Warm Home Discount os ydych yn gymwys – gostyngiad o £140 yn eich bil ynni!
Os am fwy o wybodaeth, neu cymorth gyda’r uchod, cysylltwch â’r Wardeiniaid Ynni ar 0300 111 2111 / aelodauwardeiniaidynni@grwpcynefin.org