Y Shed, Meliden
Mae Y Shed, ger Prestatyn, yn ganolfan fywiog gyda chaffi, siop, amrywiaeth o fusnesau bach, ac arddangosfeydd hanes rhyngweithiol.
Mae Y Shed yn cadw cyfrinachau cenedlaethau.
Yng nghanol Gallt Melyd, ger Prestatyn, mae’r hen adeilad carreg hwn wedi sefyll yng nghanol y pentref ers dros 100 mlynedd, ac yn arfer bod yn un o adeiladau’r rheilffordd oedd yn rhedeg y tu ôl iddo.
Ond yn 2019 fe gafodd ei thrawsnewid a’i hailagor yn ganolfan fywiog gyda chaffi, siop, amrywiaeth o fusnesau bach, ac arddangosfeydd hanes rhyngweithiol. Mae Y Shed hefyd yn cynnig gofod i weithio’n greadigol ac arddangos i fusnesau a chrefftwyr.
Gyda chefnogaeth cymdeithas dai elusennol Grŵp Cynefin a Grŵp Gweithredu Preswylwyr Gallt Melyd, mae Y Shed yn cynnig lle i fusnesau newydd ganfod eu traed, tyfu a ffynnu.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth am Y Shed, ewch i’w gwefan.
slide 2 of 7