HWB Dinbych
Adeiladwyd HWB Dinbych i gynnig amrywiaeth o wasanaethau cefnogi i bobl Dinbych a’r cylch.
Mae’r ganolfan yn cael ei rheoli gan Grŵp Cynefin mewn partneriaeth gydag adrannau gwasanaethau ieuenctid a thai Cyngor Sir Ddinbych, Grŵp Llandrillo Menai, a Phrosiect Ieuenctid Dinbych.
Beth yw prif nod HWB Dinbych?
Prif nod HWB Dinbych yw cynyddu’r cyfleoedd i gael hyfforddiant a gwaith yn lleol. Gwneir hyn drwy weithio’n agos gyda busnesau lleol, sefydlu mentrau hunan gyflogaeth, datblygu cyfleoedd menter lleol a helpu pobl i gael addysg bellach.
Beth sydd yn HWB Dinbych?
Ar lawr gwaelod HWB Dinbych mae ystafell gyfarfod, ystafell weithgareddau, ystafell gyfrifiaduron, gweithdy, cegin ac ystafell gyfarfod fach. Mae’n bosib archebu’r ystafelloedd yma, gyda nifer o gwmnïau yn eu defnyddio ar gyfer cyfarfodydd, cwnsela, hyfforddiant, dosbarthiadau ffitrwydd a chlybiau ieuenctid.
Er mwyn archebu ystafell, e-bostiwch
Cyrsiau Llandrillo Menai
Oes. Defnyddir y llawr cyntaf gan Coleg Llandrillo ar gyfer cyrsiau oedolion a chymunedol.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Coleg Llandrillo
Ffon: 01745 812 812 est.1676
E-bost:enquiries.hwb@gllm.ac.uk
Yr Hafod - fflatiau i bobl ifanc
Mae Yr Hafod yn brosiect tai â chefnogaeth ar gyfer 6 o bobl ifanc rhwng 16 a 25 mlwydd oed, wedi ei leoli ym Maes Hyfryd, Dinbych (ar yr un safle â Hwb Dinbych).
Mae’r prosiect yn darparu cefnogaeth i’r bobl ifanc yn eu llety, ar y safle ac yn y gymuned.
Grŵp Cynefin sy’n berchen ac yn rheoli’r prosiect, ac mae’r gefnogaeth yn cael ei ddarparu trwy gyfrwng cyllid Cefnogi Pobl gan Gyngor Sir Ddinbych.
Prosiect Presgripsiwn Cymdeithasol
Pwrpas y prosiect yma ydi gwella iechyd a lleisiant unigolion. Rydym yn derbyn hunan-atgyfeiriadau ac atgyfeiriadau gan asiantaethau yr ardal megis meddygol teulu, asiantaethau iechyd meddwl a’r cyngor lleol.