Grant Cymunedol Costau Byw
Beth yw Grant Cymunedol Costau Byw Grŵp Cynefin a pwy sy’n gallu gwneud cais?
Mae hwn yn gynllun grant hyd at £500 sydd ar gael i grwpiau o fewn ardal weithredol Grŵp Cynefin (chwe sir gogledd Cymru yn ogystal â gogledd Powys).
Gall grwpiau gwirfoddol, grwpiau cymunedol neu grwpiau o drigolion sy’n dymuno dod at ei gilydd yn yr ardal maen nhw’n byw ynddo wneud cais am grant.
Mae’r grant ar gael i grwpiau sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i’w cymunedau lleol sy’n wynebu argyfwng a chaledi oherwydd yr argyfwng costau byw.
plant bach yn cerdded lawr y bryn
Gwybodaeth bellach
Am gyngor neu i drafod os yw’ch prosiect yn gymwys, cysylltwch â’r Tîm Mentrau Cymunedol
0300 111 2122
mentraucymunedol@grwpcynefin.org
Plant ysgol leol yn cael diod yn Hafod y Gest
Ffurflen gais
Cwblhewch y ffurflen gais electroneg ar waelod y dudalen yma neu lawrwlythwch y ffurflen gais isod a’i ddychwelyd at mentraucymunedol@grwpcynefin.org cyn y dyddiad cau.