Canolfan Fenter Congl Meinciau
A hithau wedi ei lleoli yng nghanol Botwnnog, mae Canolfan Fenter Congl Fenciau yn cynnig gofod swyddfa ac adnoddau busnes yng nghanol Pen Llŷn i gefnogi busnesau lleol.
Cafodd y Ganolfan, sy’n cael ei rheoli gan Grŵp Cynefin, ei hagor yn 2011, gyda chefnogaeth ariannol Grŵp Cynefin, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Mae’r Ganolfan yn ffrwyth llafur sawl unigolyn a chorff dros gyfnod o rai blynyddoedd mewn ymdrech i geisio sicrhau adnodd ym Mhen Llŷn i sbarduno, cefnogi a hwyluso mentergarwch yn lleol.
Ynddi mae 12 swyddfa a 2 weithdy i’w llogi, stafelloedd cyfarfod, caffi gyda wi-fi a gofod desg boeth i unigolion weithio o’r Ganolfan.
Darren Morley ydy Rheolwr y Ganolfan a dyma oedd ganddo i’w ddweud am ei waith:
Darren Morley ydy Rheolwr y Ganolfan a dyma oedd ganddo i’w ddweud am ei waith
Dwi’n gweithio yn y Ganolfan ers 2016 ac yn ogystal â rheoli’r Ganolfan, dwi’n cynnig cyngor busnes trwy gynllun HWB Menter, sef cynllun cefnogaeth busnes Llywodraeth Cymru.
Mae genna ni gwmnïau amrywiol iawn yn y swyddfeydd ar hyd o bryd – o gwmni sy’n cynhyrchu trôns plant ar y safle i gwmnïau sy’n creu sebon allan o laeth gafr, cwmni marchnata a chwmni cyfrifiadureg.
Dwi hefyd yn falch iawn fod pob un o’r cwmnïau’n cael eu rhedeg gan bobl lleol – oedd, wrth gwrs, yn un o’r prif nodau pan gafodd y Ganolfan ei sefydlu.
Cefnogaeth fusnes – Hwb Menter
Mi yda ni yn cael dipyn o bobl yn galw eisiau cefnogaeth gyda syniad busnes – pa grantiau sydd ar gael, sut i sgwennu cynllun busnes, help i sgwennu cais am nawdd ac ati. Ma’ hwnna yn rhan pwysig o’m swydd i ac yn un sy’n rhoi boddhad mawr i mi.
Ysgolion lleol
Dwi wrth fy modd pan fydda i’n cael mynd i ysgolion lleol, cynradd ac uwchradd, i gynnal y cystadlaethau entrepreneuriaeth a wastad yn rhyfeddu at allu a syniadau plant. Mae’n braf tanio’r diddordeb yna mewn busnes ynddyn nhw yn gynnar a gobeithio y byddan nhw’n gweld y Ganolfan fel lle i alw os byddan nhw efo syniadau busnes yn y dyfodol
Egin Cegin
Un datblygiad difyr yn ddiweddar ydy Egin Cegin – sef cegin y gall pobl ei defnyddio os ydyn nhw efo diddordeb cychwyn busnes bwyd neu ddiod ac yn chwilio am le i ddatblygu syniadau.
Y Cyfnod Clo
Mi oedd y cyfnod clo yn dipyn o glec i ni gan fod nifer o’r grwpiau cymunedol oedd yn arfer cyfarfod yma wedi gorfod stopio dod draw ond mae’n braf gweld eu bod yn dod yn ôl yn ara bach fel mae’r cyfyngiadau yn llacio eto.
Eisiau gwybod mwy?
Am fwy o fanylion am Ganolfan Congl Feinciau ym Motwnnog, ewch i’w gwefan