Talu rhent a materion ariannol
Yma i’ch Cefnogi
Mae Timau Lles a Chasglu Incwm Grŵp Cynefin yma i’ch cefnogi chi a darparu cyngor arbenigol ar hawlio budd-daliadau, cynyddu incwm, rheoli dyled a chyngor ariannol.
Talu rhent
Mae nifer y ffyrdd y gallwch chi dalu rhent
- Trwy ApCynefin: Dolen i ApCynefin
- Ffurflen talu ar-lein: Dolen i’r ffurlen dalu ar-lein
- Trwy Ap Talu ar eich ffôn symudol – Dolen i’r app talu
- Debyd uniongyrchol / taliad cerdyn debyd / talu dros y ffôn – ffoniwch ni i drefnu taliadau rheolaidd – 0300 111 2122
- Cerdyn rhent yn y Swyddfa Bost – cewch dalu gydag arian parod, siec neu gerdyn debyd
- Cerdyn rhent mewn lleoliad PayPoint – cewch dalu gydag arian parod neu gerdyn debyd
Cysylltwch â ni os ydych chi angen cerdyn rhent ar 0300 111 2122.
Budd-daliadau
Hawliwch eich arian!
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n hawlio unrhyw arian sydd ar gael i chi. Defnyddiwch y Gyfrifiannell Budd-dal yma i weld pa incwm sydd ar gael i chi – mae’n hawdd i’w ddefnyddio. Mi allwch chi weld:
Tâl Gwasanaeth
Mae rhai tenantiaid yn talu tâl gwasanaeth yn ogystal â rhent. Taliad ar gyfer costau fel darparu a chynnal gwasanaethau ychwanegol ydi hwn.
Pethau fel
● Cynnal a chadw gerddi cymunedol
● Offer cymunedol e.e. lifft, system larwm tân
● Goleuo a gwresogi ardaloedd cymunedol
● Glanhau ardaloedd cymunedol
● Offer arbenigol e.e hoist
Dyma wybodaeth am beth yw tâl gwasanaeth, sut caiff y tâl gwasanaeth ei gyfrifo a rhestr o wahanol engrheifftiau.