Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC 2023) – Beth mae’n ei olygu i chi
Mae’n bosibl fod rhai ohonoch wedi clywed am Safon Ansawdd Tai newydd Cymru 2023. Ond beth mae hyn yn ei olygu i chi?
Dyma rai cwestiynau cyffredin am Safonau Ansawdd Tai Cymru, gan obeithio bydd yn help i ddeall mwy.
1. Beth yw Safon Ansawdd Tai Cymru 2023?
Ym mis Hydref 2023, cyflwynodd Llywodraeth Cymru set newydd o safonau ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n canolbwyntio ar ddarparu tai fforddiadwy i denantiaid, o ansawdd da, addas ar gyfer anghenion preswylwyr presennol a’r dyfodol.
2. Beth yw’r prif bethau sydd wedi eu cynnwys yn y safonau newydd?
Er mwyn i Grŵp Cynefin fodloni safonau Llywodraeth Cymru, mae’n rhaid i’ch cartrefi:
- Fod mewn cyflwr da
- Fod yn saff a diogel
- Beidio costio gormod i’w gwresogi na niweidio’r amgylchedd
- Fod yn gyfforddus ac addas i’r sawl sy’n byw ynddyn nhw
3. Beth sy’n wahanol i’r hen safonau WHQS?
Mae’r safonau newydd yn
- Canolbwyntio ar y tenant
- Hyrwyddo iechyd, addysg a llesiant cadarnhaol
- Hyrwyddo ymgysylltiad cyson gyda thenantiaid a chwsmeriaid
4. Sut alla i fod yn rhan o hyn?
Rhan bwysig o’r safonau newydd ydi’ch cyfraniad chi. Byddwn yn rhannu gwybodaeth yn fuan am sut gallwch chi gymryd rhan.
5. Ble alla i gael rhagor o wybodaeth?
Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.llyw.cymru/safon-ansawdd-tai-cymru-2023-0