Rhybudd storm Darragh

Gyda storm Darragh ar ei ffordd, mae rhybuddion coch, oren a melyn ar waith ar draws Cymru. Cadwch olwg ar y rhagolygon diweddaraf  ar wefan y Swyddfa Dywydd a Chyfoeth Naturiol Cymru  i weld beth yw’r rhybuddion yn eich ardal leol chi.

Gofynnwn yn garedig i chi fod yn amyneddgar gyda’n staff gan bydd y galw’n debygol o fod yn uchel. Efallai na fyddwn yn gallu delio gyda phob ymholiad yn syth oherwydd y tywydd a’r nifer uchel o alwadau. Rydym hefyd yn gorfod gwneud yn siŵr ei bod yn ddiogel i’n staff fynd allan i ddelio gydag achosion. Rydym yn addo delio gyda’ch ceisiadau cyn gynted ag y gallwn.

Os oes arnoch angen unrhyw gymorth brys, cysylltwch â ni ar 0300 111 2122. Ar gyfer adrodd ar waith trwsio nad ydynt yn rai brys cysylltwch a ni yma

Os yn argyfwng ffoniwch 999.

Rhifau defnyddio eraill:

Trydan 105

Dŵr Cymru 0800 052 0130

Nwy 0800 111999

Cyfoeth Naturiol Cymru 0300 065 3000

Peidiwch a cheisio delio gyda difrod eich hun os yn beryglus. Gwnewch yn siŵr bod dodrefn gardd neu drampolinau wedi eu clymu yn ddiogel.

Diolch am fod yn amyneddgar a chadwch yn ddiogel.

Cookie Settings