Rhaglen Arolwg Cyflwr Stoc – gwnewch eich apwyntiad rŵan!
Er mwyn i ni gynllunio ein gwaith cynnal a chadw yn effeithiol, rydyn ni yn edrych yn fanwl ar ein holl eiddo. Mae angen i bob cartref gael yr hyn rydyn ni yn ei alw yn Arolwg Cyflwr Stoc. Cwmni Rapleys sy’n gwneud hyn ar ein rhan. Os nad ydych wedi derbyn arolwg eto, cysylltwch hefo Rapleys i drefnu apwyntiad. Mi fyddan nhw yn cael eu cynnal o’r wythnos sy’n dechrau ar 13 Ionawr 2025 ac yn parhau tan ddiwedd Mawrth 2025.
Mae’n hollbwysig eich bod yn caniatáu mynediad i’r arolygwyr. Mae angen y wybodaeth er mwyn nodi a chynllunio gwelliannau angenrheidiol. Bydd hyn yn gwneud yn siŵr bod eich cartref
- yn ddiogel
- yn gyfforddus
- wedi’i gynnal a’i gadw’n dda.
Rydyn ni angen eich help chi i wneud yn siŵr bod eich cartref yn derbyn arolwg a diolch yn fawr i chi am weithio hefo ni i wneud hyn. Diolch yn fawr!
I wneud apwyntiad, ffoniwch Rapleys ar 01480 371 460 a dewis opsiwn 1 am Grŵp Cynefin a gadael enw a rhif cyswllt – fe wnawn nhw ffonio’n ôl.