Gwyliwch rhag sgamiau!
Mae sgamiau dyddiau yma mor ‘real’ mae’n ofnadwy o hawdd cael eich twyllo. Ond maen ‘na rai arwyddion:
Sut i adnabod sgam?
Gall fod yn sgam os:
- Mae’n rhy dda i fod yn wir – e.e gwyliau sy’n llawer rhatach nag arfer
- rhywun nad ydych yn eu hadnabod yn cysylltu â chi yn annisgwyl
- dydyn nhw ddim yn edrych fel cwmni go iawn – e.e dim cyfeiriad post
- Gofyn i chi anfon arian yn gyflym
- Cais i dal swm o arian mewn ffordd amheus – e.e trwy dalebau iTunes neu drwy wasanaeth trosglwyddo fel MoneyGram neu Western Union
- Gofyn am wybodaeth bersonol fel cyfrineiriau neu rifau PIN
- Dim cadarnhad ysgrifenedig o’r hyn gytunwyd
Cliciwch yma i fynd ar wefan Cyngor am Bopeth i weld be i’w wneud os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich sgamio, sut i amddiffyn eich hun rhag sgamiau a gwybodaeth am y sgamiau mwyaf diweddar.