Gwobr i Grŵp Cynefin am roi llwyfan i lais tenantiaid

Mae Grŵp Cynefin wedi ennill gwobr arbennig am eu gwaith i sicrhau bod llais tenantiaid yn cael ei glywed wrth siapio eu gwasanaethau a pholisïau, elfennau sy’n cael effaith bositif ar denantiaid a’u cartrefi.

Enillodd Tîm Mentrau Cymunedol y wobr gyntaf yng ngwobrau Arfer Da TPAS Cymru yng Nghaerdydd (nos Fercher, 3 Gorffennaf) yng nghategori ‘Llais y Tenant’ am eu gwaith yn annog tenantiaid y grŵp i gymryd rhan.

Cynhelir Gwobrau Arfer Da TPAS (Tenant Participation Advisory Service) Cymru yn flynyddol i dathlu’r cyflawniadau eithriadol mewn cyfranogiad ac ymgysylltiad tenantiaid yn y maes tai yng Nghymru.

“Rydyn ni wrth ein boddau ein bod wedi derbyn y wobr yma,” meddai Ffion Pittendreigh, Rheolwr Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin. “Mae’n dangos ein hymroddiad ni fel tîm, a Grŵp Cynefin ar ei hyd, i greu diwylliant lle mae lleisiau tenantiaid yn cael eu clywed a’u gwerthfawrogi. Mae hyn yn cynnwys cyfarfodydd ar-lein a wyneb yn wyneb, pwyllgorau ymgynghori a digwyddiadau amrywiol.

“Rydyn ni yn gwrando ar ein tenantiaid ac yn gallu profi hynny. Diolch yn fawr i’n tenantiaid am gyfrannu mor barod a brwdfrydig. Mae’n hollbwysig i’n gwaith, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at adeiladu ymhellach ar y llwyddiant yma a gweithio hefo’n gilydd i wella ein gwasanaethau a’n cymunedau.”

Oes gennych chi ddidordeb dweud eich dweud neu gymryd rhan? Cliciwch yma i weld fideo o’r buddion o gymryd rhan, a’r gwahanol ffyrdd gallwch wneud hyn.

Cookie Settings