Grŵp Cynefin yn penodi Prif Weithredwr

Mae Grŵp Cynefin wedi penodi Melville Evans yn Brif Weithredwr.

Mae Mel wedi bod yn Brif Weithredwr Dros Dro ers y 12 mis diwethaf.

Yn Gyfarwyddwr Arloesedd a Thwf Grŵp Cynefin yn flaenorol, ymunodd Mel Evans â’r grŵp yn 2021 o gymdeithas dai Clwyd Alyn lle’r oedd yn Rheolwr Prosiect Datblygu. Cyn hynny bu’n gweithio i Gyngor Sir y Fflint, Tai Clwyd a Thai Eryri.

Meddai Tim Jones, Cadeirydd Bwrdd Rheoli Grŵp Cynefin:

“Rydym yn falch iawn o gadarnhau Mel fel ein Prif Weithredwr parhaol. Mae ei brofiad ym maes tai yn ddiamheuaeth ac mae ei angerdd dros wasanaethu ei gymuned yn amlwg.

“Mae’r maes tai yn un heriol ac yn newid yn barhaus ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd Mel yn parhau i arwain Grŵp Cynefin yn ei weledigaeth i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau a chymunedau, gan roi ein tenantiaid, ein cwsmeriaid a’n staff yn gyntaf ym mhopeth a wnawn.

“Ynghyd â staff ac aelodau bwrdd ymroddedig Grŵp Cynefin, rwy’n hyderus y bydd Mel fel Prif Weithredwr yn parhau i hyrwyddo ein agwedd arloesol tuag at dai a datblygu cymunedol a’n  hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau tai a gwasanaethau cefnogi o ansawdd uchel i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”

Cookie Settings