Grŵp Cynefin yn cyrraedd rhestr fer Gwobrau Tai Cymru am ddwy wobr
Mae Grŵp Cynefin wedi eu henwebu am eu pedwaredd gwobr eleni. Llongyfarchiadau i’r Tîm Mentrau Cymunedol sydd wedi cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori yng Ngwobrau Tai Cymru a gynhelir yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr.
Mae gwaith arbennig y tîm wedi cael ei gydnabod yng nghategori ‘Rhagoriaeth mewn craffu gan denantiaid’, am annog tenantiaid i gymryd rhan a sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed wrth siapio gwasanaethau a pholisïau, elfennau sy’n cael effaith bositif ar denantiaid a’u cartrefi.
Yn ogystal, mae HWB Dinbych wedi eu henwebu am wobr yng nghategori ‘Cefnogi Cymunedau’. Mae HWB Dinbych, sydd wedi’i leoli yn Ninbych Uchaf, yn ganolfan gymunedol sy’n cynnig cefnogaeth, cyfleoedd addysgol, cyflogaeth a lles i’r gymuned ar eu stepen drws. Mae’n ofod i Goleg Llandrillo, Prosiect Ieuenctid Dinbych, Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych a sefydliadau eraill o’r trydydd sector gwrdd â’r gymuned mewn lleoliad cyfforddus, cyfleus a hawdd i’w gyrraedd.
Cynhelir Gwobrau Tai Cymru yn flynyddol i gydnabod yr holl waith da sy’n digwydd i helpu tenantiaid, cwsmeriaid a chymunedau ar draws y sector yng Nghymru.
“Rydyn ni mor falch ein bod wedi cael ein henwebu am y ddwy wobr arbennig yma” meddai Ffion Pittendreigh, Rheolwr Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin. “Mae’n dangos ein hymroddiad ni fel tîm, a Grŵp Cynefin ar ei hyd, i greu diwylliant lle mae lleisiau tenantiaid yn cael eu clywed a’u gwerthfawrogi. Mae’n braf hefyd gweld HWB Dinbych yn cael cydnabyddiaeth am y gwaith amhrisiadwy sy’n cael ei gynnig i bobl a chymuned Dinbych.”
Pob lwc i’r Tîm Mentrau Cymunedol yn y gwobrau ar y 12fed o Rhagfyr 2024.