Eich llawlyfr tenantiaid newydd

Mae eich llawlyfr tenantiaid newydd yma – y prif bethau sydd angen i chi ei wybod am eich tenantiaeth, i gyd mewn un lle!

Llawlyfr Tenantiaid Grŵp Cynefin

Mae’n llawn tips a chyngor ar sut i gadw cartref clyd, sut i ofyn am waith trwsio, beth mae disgwyl i chi edrych ar ei ôl a beth ddylen ni ofalu amdano.

Rydyn ni yn hynod o falch o’r llawlyfr newydd a grëwyd o’r newydd trwy gydweithio gyda thenantiaid dros gyfnod o chwe mis. Rydyn ni wedi gwrando ar eich adborth chi ac wedi creu llawlyfr sydd yn gryno, hawdd ei ddarllen,  gyda iaith syml.

Yn bennaf, copi digidol ydi’r llawlyfr gyda dolenni yn eich arwain i wybodaeth amrywiol ar y wefan. Mae copïau print, Braille neu sain ar gael ar gais.

Yn ogystal, mae cardiau bach wedi eu creu sy’n cynnwys lle i chi nodi eich rhif tenantiaeth a chôd QR fydd yn eich arwain yn syth at y llawlyfr. Bydd Swyddogion Tai yn rhannu’r rhain wrth ymweld – cadwch nhw mewn lle cyfleus i’w defnyddio pan fo angen.

Cookie Settings