Cronfa Cyfle i Bawb – gwyliau haf am ddim i blant a phobl ifanc
Mewn cyd-weithrediad gyda Urdd Gobaith Cymru, rydym yn falch o gynnig llefydd am ddim i blant a phobl ifanc rhwng 8-18 oed yng ngwersylloedd haf yr Urdd eleni.
Mae gwersylloedd haf yr Urdd yn rhoi’r cyfle i blant a pobl ifanc fwynhau gwyliau annibynnol i ffwrdd o adref dan ofal staff profiadol yr Urdd.
Mae hyd, oedran, gweithgareddau a lleoliadau’r gwersylloedd yn amrywio. Ewch i wefan yr Urdd i ddysgu mwy: www.urdd.cymru/gwersylloeddhaf
Pwy sy’n gymwys i wneud cais?
- plentyn/person ifanc rhwng 8 ac 18 oed
- plentyn/person ifanc sy’n siarad Cymraeg yn rhugl neu’n dysgu
- plentyn/person ifanc y mae ei rieni/gwarcheidwaid yn gymwys am brydau ysgol am ddim NEU gredydau treth gwaith
- plentyn/person ifanc sy’n byw mewn amgylchiadau heriol yr ydych chi’n teimlo y byddai’n elwa o fynychu gwersyll haf.
Bydd y nawdd yn talu am bris cyfan y cwrs sy’n cynnwys trafnidiaeth, bwyd, gweithgareddau a gofal.
I wneud cais, ewch i wefan yr Urdd: www.urdd.cymru/cronfa gan nodi ar y ffurflen eich bod yn un o denantiaid Grŵp Cynefin
Dyddiad cau: 31 Mai 2025
Angen cymorth gyda’r ffurflen gais? Cysylltwch â’r Urdd: cronfa@urdd.org