Cadw’n saff yn y storm

Gyda rhybuddion am dywydd drwg dros y dyddiau nesaf, mae rhai pethau y gall pawb eu gwneud i baratoi at storm
  • Ceisiwch gadw, clymu neu wneud eitemau sydd o gwmpas eich tŷ yn saff rhag y gwynt e.e dodrefn gardd, offer garddio, biniau, trampolinau, ysgolion ayyb.
  • Caewch ddrysau a ffenestri allanol yn dynn
  • Parciwch eich ceir mor bell ag sy’n ymarferol oddi wrth goed, ffensys neu adeiladau
  • Caewch unrhyw ddrysau sy’n rhoi mynediad i atig
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut i droi eich nwy, trydan a dwr i ffwrdd mewn achos o argyfwng
  • Rhowch eich ffonau, batri pacs a theclynnau i’w gwefru ymlaen llaw rhag ofn i’r trydan fynd
  • Cadwch boteli dŵr yn handi rhag ofn bydd eich cyflenwad dŵr yn cael ei effeithio
  • Cadwch eich anifeiliaid anwes yn ddiogel dan do
Byddwch yn gymydog da – cadwch lygad a helpu unrhyw un y gwyddoch sy’n oedrannus neu fregus a chysylltwch gyda’r awdurdodau os credwch eu bod mewn perygl.
Cadwch lygad ar y rhagolygon gan y Met Office a Cyfoeth Naturiol Cymru i weld pa rybuddion sydd yn eich ardal chi.
Os credwch bod difrod i’ch tŷ neu ardd, arhoswch nes ei bod yn ddiogel cyn mynd allan i weld.
Plîs byddwch yn amyneddgar gyda’n staff – mae nifer y galwadau yn uchel ar adegau fel hyn.
Diolch 💙
Cookie Settings