Beth sydd ymlaen mis Chwefror?
Mae yna lawer o ffyrdd i ddweud eich dweud yn ffurfiol ac yn anffurfiol fel tenant Grŵp Cynefin. Gallwch wir wneud gwahaniaeth i sut mae Grŵp Cynefin yn gwella a siapio ein gwasanaethau.
Eisiau gwybod mwy am y buddion o gymryd rhan? Beth am ymuno yn ein sesiwn ‘Cyflwyniad i gymryd rhan’ mis Chwefror? I roi eich enw lawr, cliciwch yma a dewis yr opsiwn ‘Cyflwyniad i Gymryd Rhan’.
Dyma beth sydd ar y gweill mis Chwefror….
Sesiwn Tasg a Gorffen
Strategaeth Cynnwys Tenantiaid – Yn ystod y cyfarfod yma byddwn yn trafod adborth gan staff a tenantiaid ynglŷn â’r opsiynau cynnwys tenantiaid sydd ar gael i chi. Yn ogystal byddwn yn edrych ar opsiynau ar gyfer y strategaeth newydd.
📅Dydd Iau 13 Chwefror
📍HWB Dinbych
⏱ 10am – 3pm
Hoffech chi fod yn rhan ohono? Cwblhewch y ffurflen Cymryd Rhan yma a dewis y sesiwn/sesiynau priodol.
eCymru
Mae Grŵp Cynefin yn rhan o eCymru, porth tai sy’n cysylltu cymunedau Cymru. Mae eCymru yn cynnig mynediad i ddigwyddiadau a chyfleoedd ymgysylltu a dysgu’n electronig a fedr helpu tenantiaid i fyw bywydau hapusach ac iachach.
I archebu lle neu i weld beth arall sydd gan eCymru i’w gynnig, ewch i’r wefan yma.