Os ydych yn rhentu eich tŷ, ni fydd Grŵp Cynefin yn yswirio cynnwys eich cartref.
Mae yswiriant cynnwys cartref wedi’i gynllunio i helpu i ddiogelu eich eiddo. Waeth pa mor ofalus ydych chi, mae risg bob amser y gallai eich eiddo gael ei dorri, ei ddifrodi neu ei ddwyn.
Mae Grŵp Cynefin wedi partneru gyda Thistle Tenant Risks, a Great Lakes Insurance UK Ltd sy’n darparu’r Cynllun ‘Yswiriant Cynnwys My Home’, sef polisi Yswiriant Cynnwys Tenantiaid a luniwyd ar gyfer tenantiaid sy’n byw mewn tai cymdeithasol.
Gall Cynllun Yswiriant Cynnwys My Home gynnig yswiriant i chi ar gyfer cynnwys eich cartref gan gynnwys yswiriant ar gyfer eitemau fel dodrefn, carpedi, llenni, dillad, dillad gwely, eitemau trydanol, gemwaith, lluniau ac addurniadau.
Sut alla i ddarganfod mwy?
• Gofynnwch i’ch swyddog tai am becyn gwybodaeth.
• Ffoniwch Thistle Tenant Risks ar 0345 450 7288
• Neu gallwch ymweld â gwefan thistlemyhome.co.uk am ragor o wybodaeth neu i ofyn iddynt eich ffonio’n ôl.
Mae cyfyngiadau a gwaharddiadau yn berthnasol. Mae copi o eiriad y polisi ar gael ar gais.
Y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol a Chartrefi Cymunedol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Thistle Insurance Services Ltd. Mae Thistle Insurance Services Limited wedi’i awdurdodi a’i reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) – Cyfeirnod y Cwmni 310419. Wedi’i gofrestru yn Lloegr o dan rif 00338645. Swyddfa gofrestredig: Rossington Business Park, West Carr Road, Retford, Nottinghamshire, DN22 7SW. Mae Thistle Insurance Services Ltd yn rhan o Grŵp PIB.
Mae ein Polisi Preifatrwydd Diogelu Data ar-lein yn https://www.thistleinsurance.co.uk/Privacy-Policy. Mae’n bwysig diogelu eich eiddo ac mae eich Landlord yn awgrymu eich bod yn chwilio am ddarparwyr sy’n cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Mae Thistle Insurance Services yn gwmni sy’n arbenigo mewn yswiriant cynnwys tai cymdeithasol, ond mae darparwyr eraill hefyd ar gael ar wefannau cymharu fel Money Supermarket neu Compare the Market.