Argyfwng
Beth i’w wneud mewn argyfwng
Rydym ar gael 24 awr y dydd, bob dydd o’r flwyddyn mewn argyfwng.
Rhif ffôn – 0300 111 2122
Cyswllt Cynefin
Decant – gorfod symud o’ch cartref
Beth ydy’r rhesymau posibl am orfod symud allan o fy nghartref?
Dyma ddau reswm posibl am orfod symud allan o’ch cartref
1.Sefyllfa o argyfwng
Os bydd eich cartref yn cael ei ddifrodi gan dân neu lifogydd, efallai y bydd angen i chi symud allan dros dro er mwyn i ni allu atgyweirio’r difrod.
2.Cynnal a chadw neu waith trwsio
Mae’n rhaid i ni sicrhau bod eich cartref yn ddiogel ac yn cyrraedd y safon angenrheidiol.
Fel rheol, bydd gwaith sylweddol yn cael ei gwblhau cyn i chi symud i mewn i’ch cartref, ond weithiau mae angen gwneud gwaith tra byddwch chi’n byw yno, yn enwedig os ydych wedi bod yn denant am nifer o flynyddoedd
Beth ddylwn i wneud os bydd angen i mi symud allan o’m cartref?
- Cysylltwch â’ch cwmni yswiriant cynnwys cartref ar unwaith, cyn i chi symud neu waredu unrhyw eitemau.
- Sicrhewch fod eich cyflenwadau nwy, dŵr a thrydan yn cael eu diffodd (os gallwch chi, gwnewch nodyn o ddarlleniadau’r mesuryddion).
- Trafodwch gyda’r staff yr angen i symud neu storio eiddo personol y cartref.
- Rhowch wybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau / Adran Budd-dal Tai / Treth cyngor o’r newid yn eich amgylchiadau.
- Rhowch wybod i’ch meddyg / asiantaethau cymorth eich bod chi’n symud allan dros dro.
- Rhowch wybod i’r holl wasanaethau perthnasol eraill – e.e. yswiriannau (cynnwys eiddo, car, personol), ffôn a theledu.
llun o ffordd wledig yn arwain i mewn i bentref
Gwybod mwy
Eisiau gwybod mwy am sefyllfa ‘decant’?