Rydych chi, ein tenantiaid, wrth galon popeth a wnawn – a rydym yma i wrando arnoch chi.

Gallwch wir wneud gwahaniaeth i sut mae Grŵp Cynefin yn gwella a siapio eu gwasanaethau.
Mae hyn yn golygu y gallwch chi fod yn rhan o wneud y penderfyniadau sy’n effeithio arnoch chi, eich cartref a’ch cymuned.

Byddwch yn:

Mae yna lawer o ffyrdd i ddweud eich dweud a cymryd rhan yn ffurfiol ac yn anffurfiol:

Mwy o wybodaeth ar y daflen Cymryd Rhan yma

Beth sydd ymlaen?

Bob dydd Iau cynhelir cyfarfodydd ar-lein gyda grwpiau tenantiaid – ffordd wych o gadw mewn cysylltiad a derbyn barn tenantiaid ar ein gwasanaethau! Ydych chi’n denant i Grŵp Cynefin a diddordeb cymryd rhan? Cysylltwch â’r Tîm Mentrau Cymunedol am fwy o wybodaeth. 0300 111 2122 / mentraucymunedol@grwpcynefin.org.

Gweithdai y gallech ymuno hefo nhw i ni gael eich barn. Sesiynau Tasg a Gorffen gaiff rhain eu galw.

Dydd Mawrth 19/11/24– Strategaeth Mentrau Cymunedol (lleoliad i’w gadarnhau)

Hoffech chi fod yn rhan ohonynt? Cwblhewch y ffurflen Cymryd Rhan a dewis y sesiwn/sesiynau.

Ydych chi eisiau dylanwadu ar benderfyniadau Grŵp Cynefin? Beth am ymuno â’r Cyflwyniad i Gymryd Rhan i gael gwybod mwy…

Diddordeb? Cwblhewch y ffurflen Cymryd Rhan a dewis y sesiwn. Edrychwn ymlaen i’ch gweld am sgwrs!

ECymru

Mae Grŵp Cynefin yn rhan o eCymru, porth tai sy’n cysylltu cymunedau Cymru. Mae eCymru yn cynnig mynediad i ddigwyddiadau a chyfleoedd ymgysylltu a dysgu’n electronig a fedr helpu tenantiaid i fyw bywydau hapusach ac iachach.

I archebu lle neu i weld beth sydd gan eCymru i’w gynnig, ewch i’r wefan: www.ecymru.co.uk

 

Rydym yn edrych am Siopwyr Dirgel i gymryd rhan mewn gwerthuso gwasanaethau Grŵp Cynefin 🕵️‍♀️ Os ydi hyn o ddiddordeb i chi, cysylltwch â’r Tîm Mentrau Cymunedol am fwy o wybodaeth.

Eisiau dweud eich dweud? Cwblhewch y ffurflen isod neu cysylltwch â’r Tîm Mentrau Cymunedol.
mentraucymunedol.org
0300 111 2122.

Cymryd Rhan

Cookie Settings