Maes y Môr, Tremadog
Annibyniaeth – Cefnogaeth – Cymuned
Maes y Mor
Os ydych chi neu aelod o’r teulu yn chwilio am ychydig o gymorth i barhau i fyw’n annibynnol wrth fynd yn hŷn, efallai mai Maes y Môr yn Nhremadog, Gwynedd yw’r lle i chi.
Wedi ei leoli mewn llecyn tawel gyda gardd eang, mae Maes y Môr yn gynllun tai cysgodol i bobl dros 55 mlwydd oed, gyda rheolwr ar y safle yn ystod yr wythnos i’ch cefnogi gyda materion sy’n ymwneud â’ch cartref.
Byddwch yn gallu parhau i fyw’n annibynnol yn un o’n 38 o fflatiau hunangynhaliol sydd ar y safle, ond gyda’r sicrwydd bod cefnogaeth ar gael yn ystod y dydd yn yr wythnos, a mynediad 24 awr at wasanaeth brys, os oes angen.
Mae Maes y Môr yn cynnig tawelwch meddwl i chi, eich teulu a’ch ffrindiau tra ar yr un pryd yn rhoi’r annibyniaeth a’r rhyddid i chi fynd a dod fel y mynnwch.
Os ydych chi neu aelod o’ch teulu eisiau sgwrs neu wybodaeth am rentu fflat ym Maes y Môr, yna cysylltwch â ni.