Ar 1 Rhagfyr 2022 gwnaeth Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 newid y ffordd y mae pob landlord yng Nghymru yn rhentu ei eiddo. Mae wedi golygu newidiadau yn eich contract, sut mae eich cartref yn cael ei gynnal, a sut rydych chi yn cyfathrebu â’ch landlord.

Mae mwy am sut mae hyn yn effeithio arnoch chi ar y ddolen isod

Deddf Rhentu Cartrefi Cymru

O dan y gyfraith newydd, mae tenantiaid a deiliaid trwyddedau yn ‘ddeiliaid contract’. Mae cytundebau tenantiaeth rŵan yn cael eu galw yn ‘gontractau meddiannaeth’.

Dyma enghraifft o’n contract meddiannaeth yma

Os oes cwestiynau gennych chi am y newidiadau, cysylltwch â post@ grwpcynefin.org.

Cookie Settings