Cymorth Ariannol
Deallwn y gall costau byw cynyddol wneud i chi deimlo’n bryderus os rydych yn ei chael hi’n anodd talu eich biliau a’ch rhent, ond mae help a chyngor ar gael.
Tîm Lles
Mae’r Tîm Lles yma i’ch helpu chi gydag unrhyw bryder ariannol. Cysylltwch â ni i weld os gallwn eich helpu chi i hawlio incwm ychwanegol – fel cymorth at gostau treth cyngor, cinio ysgol plant neu gredyd pensiwn.
Cysylltwch â ni ar 0300 111 2122 / post@grwpcynefin.org
Helpwr Arian
Rheoli eich arian mewn cyfnod ansicr
Mae’r pandemig a’r costau byw cynyddol wedi gadael llawer o bobl hefo pryderon newydd am arian.
Os ydych chi wedi cael eich synnu gan filiau a thaliadau uwch, incwm ansicr neu golli swydd, gall ‘Helpwr Arian’ eich helpu i gymryd y cam cyntaf tuag at ddod a phethau yn ôl i drefn.