Beth bynnag ydy’r rheswm eich bod eisiau symud – cartref rhy fawr neu fach, rhesymau meddygol, eisiau symud ardal neu briodas neu berthynas yn chwalu – mi allwn ni helpu.

Dyma rai opsiynau:

Cyfnewid efo tenant arall

Mi allwch gyfnewid eichcartref cymdeithasol gyda thenant arall Grŵp Cynefin, cymdeithas dai arall neu Gyngor lleol cyn belled a bod y cartref yn addas ar eich cyfer.

Mae Grŵp Cynefin yn aelod o Homeswapper a gallwch gofrestru drwy ymweld â’u gwefan.

Cofiwch fod rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig y Grŵp cyn cyfnewid gydag unrhyw denant arall, ac mae gennym ni hawl i beidio caniatáu cyfnewid os ydych chi wedi torri unrhyw delerau (e.e ôl-ddyledion rhent, achosi difrod i eiddo ac ati) neu os ydym yn meddwl nad ydy’r cartref ydych chi eisiau symud iddo yn addas i chi.

Homeswapper

Homeswapper

Dyma ddolen i wefan Homeswapper ble cewch chi fwy o wybodaeth.

Oedd y dudalen yma yn ddefnyddiol?
This field is for validation purposes and should be left unchanged.

Cookie Settings