Cynllun tai gofal ychwanegol yw Llys Awelon a sefydlwyd yn 2011 gan Grŵp Cynefin mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych. Mae’r cynllun yn darparu cartref, cefnogaeth a gwasanaethau gofal i bobl dros 60 oed.

Mae’r cynllun gwreiddiol o 21 o fflatiau yn cael ei ddiweddaru ac mae 35 uned ychwanegol wedi eu cwblhau gyda’r tenantiaid wedi symud i fewn i’w cartrefi newydd yn Hydref 2024. Bydd yr ail gam i uwchraddio rhan hŷn y cynllun yn cael ei gwblhau yn 2025.

Mae’r prosiect yn golygu ailddatblygu’r Llys Awelon presennol yn llwyr i greu cynllun modern, carbon isel, pwrpasol i gwrdd ag anghenion pobl hŷn yn ardal Sir Ddinbych.

Prif gontractwr y prosiect yw Read Construction.

Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Ddinbych, Grŵp Cynefin a Llywodraeth Cymru a chaiff ei gefnogi gan £7.1 miliwn o gyllid Rhaglen Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Mwy am Llys Awelon yma

 

Oedd y dudalen yma yn ddefnyddiol?
This field is for validation purposes and should be left unchanged.

Cookie Settings