Canol Cae, Penrhyndeudraeth
41 Cartref
Cwblhau: Gaeaf 2025
Bydd y datblygiad £10 miliwn hwn yn darparu 41 o gartrefi fforddiadwy, effeithlon o ran ynni ym Mhenrhyndeudraeth. Adeiladir y cartrefi yma gan Williams Homes (Bala) ar ran ClwydAlyn a Grŵp Cynefin ac mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.
Mae’r gymysgedd o gartrefi yn cynnwys cartrefi 2, 3 a 4 ystafell wely, byngalos 1 ystafell wely, a fflatiau 1 ystafell wely. Adeiladir yr holl gartrefi fel cartrefi am oes ac maent wedi eu dylunio i fod yn hawdd eu haddasu yn ôl anghenion y preswylwyr wrth iddynt newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol yn hwy. Byddant yn cael eu dyrannu trwy’r Gofrestr Tai a Tai Teg.
Bydd y cartrefi newydd hyn yn bodloni ac yn mynd tu hwnt i’r safonau rheoleiddiol presennol: Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a safonau Tai a Lleoedd Hardd Llywodraeth Cymru.
Wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi newydd yma’n effeithlon iawn o ran ynni ac yn manteisio ar:
- Pympiau gwres ffynhonnell aer
- Paneli trydan solar
- Cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol
- Cyfleusterau gwefru ceir trydan
- ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl
- Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel.
Mwy yn y stori newyddion yma
Newyddion diweddaraf: Gosod sylfeini ar gyfer cartrefi lleol yng Ngwynedd
Mae’r gwaith wedi dechrau ar ddatblygiad gwerth £10 miliwn a fydd yn darparu 41 o gartrefi teuluol ynni effeithlon a fforddiadwy i bobl leol ym Mhenrhyndeudraeth, Gwynedd.
Mae 41 o gartrefi ar y safle:
-
8 x Fflat 1 Ystafell Wely
-
1 x Byngalo 2 Ystafell Wely
-
20 x Cartref 2 Ystafell Wely
-
9 x Cartref 3 Ystafell Wely
-
1 x Cartref 4 Ystafell Wely
-
1 x Cartref 6 Ystafell Wely
-
1 x byngalo byw â chymorth
Eisiau byw yma?
Er mwyn ymgeisio i fyw yma, bydd angen i chi ymgeisio trwy Gyngor Gwynedd.
Dilynwch y ddolen isod i ddechrau’r broses.