Cartrefi i’w rhentu – Môn
Mae’n bwysig i ni fod ein tenantiaid yn byw mewn cartrefi fforddiadwy, o safon uchel, sy’n addas i’w hanghenion.
Rydym yn gweithio mewn partneriaethau gyda’r gwahanol siroedd i osod ein heiddo rhent a darganfod tenantiaid newydd.
Mae gan bob sir ei drefniant a’i gofrestr ei hun ar gyfer eiddo landlordiaid cymunedol y sir.
Mae’r gofrestr yn rhoi blaenoriaeth i ymgeiswyr mewn trefn amser, felly gorau po gyntaf i chi gofrestru.
Sut fyddai’n gwybod os bydda i wedi cael cartref gan Grŵp Cynefin?
Pan fydd un o’n cartrefi ar gael, byddwn yn holi am fanylion y tenant sydd ar ben y gofrestr gan y sir.
Os mai chi sydd ar ben y rhestr, mi fydd Swyddog Tai o Grŵp Cynefin yn cysylltu â chi i drafod eich cais a rhannu manylion y cartref sydd ar gael.
Sut alla i wneud cais i fynd ar y gofrestr?
Mae’n hawdd gwneud cais – y cyfan sydd angen i chi ei wneud ydy cysylltu gyda’r adran berthnasol o fewn y cyngor.
Gwasanaeth Cwsmer Adran Tai Ynys Môn