Penucheldre, Caergybi
Annibyniaeth – Cefnogaeth – Cymuned
Penucheldre
Os ydych chi neu aelod o’r teulu yn chwilio am lety i fyw’n annibynnol, gyda gofal a chefnogaeth ar y safle ar gyfer person hŷn, yna gallai Penucheldre yng Nghaergybi, Ynys Môn, fod y cartref perffaith.
Wedi’i adeiladu yn 2012, mae Penucheldre yn gynllun tai gofal ychwanegol a ddatblygwyd gan Grŵp Cynefin mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn. O fewn pellter cerdded i ganol y dref ac yn agos at leoliad celfyddydau cymunedol Canolfan Ucheldre, mae’r cyfleuster yn darparu gwasanaethau tai, cymorth a gofal i bobl dros 60 oed.
Pa gefnogaeth fyddwn chi’n ei gynnig?
Cefnogir preswylwyr a’u hannog i fyw bywyd llawn ac egnïol, gan ddatblygu eu diddordebau a chynnal eu hiechyd a’u lles. Mae staff Grwp Cynefin yn darparu cefnogaeth materion tai i bob tenant ac mae tîm gofal ymroddedig a phrofiadol ar y safle 24 awr y dydd. Bydd cynlluniau cefnogaeth a gofal personol hyblyg ar gael, pe bai angen, wedi eu datblygu gyda chi i weddu eich anghenion presennol ac i’r dyfodol.
Pa mor annibynnol fydda i?
Gyda’ch drws ffrynt eich hun, eich fflat yw eich cartref lle gallwch barhau i goginio, derbyn ymwelwyr a mwynhau byw’n annibynnol. O fewn pob fflat mae cegin, ystafell fyw, ystafell ymolchi ac ystafell wely. Mae’r cynllun wedi ei ddylunio i’ch galluogi i fyw yn eich cartref eich hun cyn hired â phosib ac i wneud byw’n annibynnol yn haws.
Fydd na gyfle i gymdeithasu ar y safle?
Mae yna gymuned fywiog a chlos ym Mhenucheldre ac wrth rentu fflat yno, cewch hefyd fynediad i lolfa gymunedol lle mae cyfle i gymdeithasu â thrigolion eraill a mwynhau gweithgareddau fel celf a chrefft, boreau coffi, cyngherddau a garddio.
Allan yn yr ardd ac ar y patio, cewch gyfle i ymlacio a mwynhau’r awyr iach. Mae byw yn Penucheldre yn eich galluogi i gynnal eich annibyniaeth a’ch preifatrwydd a chael y dewis i gymdeithasu a chyd-ymuno fel y dymunwch.
Oes prydau bwyd yn cael eu darparu?
Gweinir pryd canol dydd yn y bwyty cymunedol yn ddyddiol, gan roi’r cyfle i drigolion dderbyn pryd iach a blasus wrth sgwrsio dros ginio.
Os ydych chi neu aelod o’ch teulu eisiau sgwrs neu wybodaeth bellach am rentu fflat ym Mhenucheldre, yna cysylltwch â ni.
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 0300 111 2122 neu e-bostiwch: post@grwpcynefin.org
Nodweddion Allweddol:
- Eich annibyniaeth i fod yn denant eich hun gyda’ch drws ffrynt eich hun
- 54 o fflatiau – un neu ddwy ystafell wely
- Gofal a chefnogaeth ar gael 24 awr y dydd
- Gweithgareddau ac ymdeimlad cymunedol
- Gwasanaeth larwm, llinell gofal 24 awr ym mhob fflat
- Gwasanaeth cynnal a chadw brys 24 awr
- Pob fflat gyda chegin, lolfa, ystafell ymolchi ac ystafell wely
- Dyluniad hygyrch – cawodydd gyda mynediad lefel llawr, lifftiau a storfa sgwter
- System mynediad drws diogel
- Mannau cymunedol – lolfeydd ac ystafelloedd gweithgareddau
- Ystafell fwyta
- Golchdy
- Ystafell trin gwallt
- Ystafell ar gyfer gwesteion dros nos
- Gardd a gofod patio y tu allan
- Digon o le i barcio ceir