Annibyniaeth – Cefnogaeth – Cymuned

Llys Awelon, Rhuthun

Os ydych chi neu aelod o’r teulu yn chwilio am gartref i fyw’n annibynnol wrth fynd yn hŷn, efallai mai Llys Awelon yn Rhuthun yw’r lle i chi.

Cynllun gofal ychwanegol yw Llys Awelon a sefydlwyd yn 2011 gan Grŵp Cynefin mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych. Mae’r cynllun yn darparu cartref, cefnogaeth a gwasanaethau gofal i bobl dros 60 oed.

Mae’r cynllun gwreiddiol o 21 o fflatiau yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd ac mae 35 uned ychwanegol wedi eu cwblhau yn Hydref 2024. Bydd yr ail gam i uwchraddio rhan hŷn y cynllun yn cael ei gwblhau yn 2025.

Mae Llys Awelon yn cynnig ffordd o fyw’n annibynnol i bobl hŷn mewn lleoliad modern, cyfforddus a diogel. Mae gwir ymdeimlad o ysbryd cymunedol yma.

Byddwch yn gallu parhau i fyw’n annibynnol yn un o’n fflatiau hunangynhaliol sydd ar y safle, ond gyda’r sicrwydd bod cefnogaeth a gofal ar gael 24 awr yr dydd, os bydd angen.

 

 

Pa gefnogaeth fyddwn chi’n ei gynnig?

Cefnogir preswylwyr a’u hannog i fyw bywyd llawn ac egnïol, gan ddatblygu eu diddordebau a chynnal eu hiechyd a’u lles. Mae staff Grŵp Cynefin yn darparu cefnogaeth materion tai i bob tenant ac mae tîm gofal ymroddedig a phrofiadol ar y safle. Mae cefnogaeth a gofal ar gael 24 awr y dydd, os oes angen.

Nodweddion Allweddol:

  • Eich tenantiaeth a’ch drws ffrynt eich hun
  • Gofal a chefnogaeth ar gael 24 awr y dydd
  • Gweithgareddau ac ymdeimlad cymunedol
  • Gwasanaeth larwm, llinell gofal 24 awr ym mhob fflat
  • Gwasanaeth cynnal a chadw brys 24 awr
  • Pob fflat gyda chegin, ystafell ymolchi, ystafell wely a lolfa
  • Dyluniad hwylus – cawodydd gyda mynediad lefel llawr, lifftiau a storfa sgwter
  • System mynediad drws diogel
  • Mannau cymunedol a lolfeydd
  • Ystafell fwyta
  • Golchdy
  • Ystafell trin gwallt
  • Ystafell i westeion aros
  • Gardd a gofod patio y tu allan
  • Digon o le i barcio ceir
Oedd y dudalen yma yn ddefnyddiol?
This field is for validation purposes and should be left unchanged.

Cookie Settings