Hafod y Gest, Porthmadog
Annibyniaeth – Cefnogaeth – Cymuned
Hafod y Gest, Porthmadog
Os ydych chi neu aelod o’r teulu yn chwilio am gartref i fyw’n annibynnol wrth fynd yn hyn, efallai mai Hafod y Gest ym Mhorthmadog yw’r lle i chi.
Cynllun gofal ychwanegol yw Hafod y Gest a sefydlwyd yn 2018 gan Grwp Cynefin mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd. Wedi ei leoli yng nghanol y dref, mae’r cynllun yn darparu cartref, cefnogaeth a gwasanaethau gofal i bobl dros 55 oed.
Mae Hafod y Gest yn cynnig ffordd o fyw’n annibynnol i bobl hŷn mewn lleoliad modern, cyfforddus a diogel. Mae gwir ymdeimlad o ysbryd cymunedol yma.
Byddwch yn gallu parhau i fyw’n annibynnol yn un o’n 40 o fflatiau hunangynhaliol sydd ar y safle, ond gyda’r sicrwydd bod cefnogaeth ar gael 24 awr y dydd, os bydd angen.
Os ydych chi neu aelod o’ch teulu eisiau sgwrs neu wybodaeth bellach am rentu fflat yn Hafod y Gest, yna cysylltwch â ni.
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 0300 111 2122 neu e-bostiwch: post@grwpcynefin.org
Nodweddion Allweddol:
- Eich tenantiaeth a’ch drws ffrynt eich hun
- Gofal a chefnogaeth ar gael 24 awr y dydd
- Gweithgareddau ac ymdeimlad cymunedol
- Gwasanaeth larwm, llinell gofal 24 awr ym mhob fflat
- Gwasanaeth cynnal a chadw brys 24 awr
- Pob fflat gyda chegin, ystafell ymolchi, ystafell wely a lolfa
- Dyluniad hwylus – cawodydd gyda mynediad lefel llawr, lifftiau a storfa sgwter
- System mynediad drws diogel
- Mannau cymunedol – lolfeydd ac ystafelloedd gweithgareddau
- Ystafell fwyta
- Golchdy
- Ystafell trin gwallt
- Ystafell i westeion aros
- Gardd a gofod patio y tu allan
- Digon o le i barcio ceir