Awel y Dyffryn, Dinbych
Annibyniaeth – Cefnogaeth – Cymuned
Awel y Dyffryn
Hoffech chi gael rhywfaint o gymorth ychwanegol er mwyn cadw eich annibyniaeth?
Mae Awel y Dyffryn, Dinbych, ein datblygiad diweddaraf, yn cynnig cartrefi o ansawdd uchel mewn cymuned gyfeillgar a chlos ar gyfer pobl hyn sydd eisiau dal i fwynhau byw’n annibynnol.
Mae Awel y Dyffryn yn gynllun £12m sy’n cynnig holl fanteision bywyd modern mewn amgylchedd cyfforddus a diogel.
Gallwch barhau i fyw’n annibynnol yn un o’n 66 o fflatiau hunangynhwysol (self contained), gan wybod fod gofal a chefnogaeth wrth law 24 awr y dydd, os ydych ei angen. Rhoddir blaenoriaeth i drigolion Sir Ddinbych wrth osod y fflatiau.
Mae yno 42 o fflatiau dwy lofft a 24 o fflatiau un llofft, gyda gofal a chefnogaeth hyblyg y gellir ei deilwra o amgylch eich anghenion penodol fel y gallwch barhau i fyw’n annibynnol. Bydd ein staff bob amser yn ymateb yn ddoeth a sensitif wrth i’ch anghenion newid.
Os ydych chi neu aelod o’ch teulu eisiau sgwrs neu wybodaeth bellach am rentu fflat yn Awel y Dyffryn, yna cysylltwch â ni.
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 0300 111 2122 neu e-bostiwch: post@grwpcynefin.org
Prif nodweddion:
- Eich tenantiaeth a’ch drws ffrynt eich hun
- Gofal a chefnogaeth 24 awr y dydd
- Gweithgareddau a’r ymdeimlad o fyw mewn cymuned
- Gwasanaeth larwm Careline 24 awr y dydd ym mhob fflat
- Gwasanaeth cynnal a chadw 24 awr mewn argyfwng
- Pob fflat gyda chegin gyflawn, ystafell molchi, llofft a lolfa
- Adnoddau hwylus – cawodydd yr un lefel â’r llawr, lifftiau a storfa sgwteri
- System atal mynediad i ddieithriaid
- Ardaloedd cymunedol – lolfeydd
- Stafell fwyta
- Lle golchi dillad
- Lle trin gwallt
- Lle i ymwelwyr aros nos
- Lle parcio
- Cyfleusterau therapi
- Gerddi hardd