Awel y Coleg, Y Bala
Annibyniaeth – Cefnogaeth – Cymuned
Awel y Coleg
Os ydych chi neu aelod o’r teulu yn chwilio am gartref i fyw’n annibynnol wrth fynd yn hŷn, efallai mai Awel y Coleg yn nhref Y Bala, Gwynedd yw’r lle i chi.
Cynllun gofal ychwanegol yw Awel y Coleg a sefydlwyd yn 2012 gan Grŵp Cynefin mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd. Wedi ei leoli gyferbyn ag Ysgol Godre’r Berwyn, mae’r cynllun yn darparu cartref, cefnogaeth a gwasanaethau gofal i bobl dros 55 oed.
Mae Awel y Coleg yn cynnig ffordd o fyw’n annibynnol i bobl hyn mewn lleoliad modern, cyfforddus a diogel. Mae gwir ymdeimlad o ysbryd cymunedol yma.
Byddwch yn gallu parhau i fyw’n annibynnol yn un o’n 30 o fflatiau hunangynhaliol sydd ar y safle, ond gyda’r sicrwydd bod cefnogaeth ar gael 24 awr y dydd, os bydd angen.
Pa gefnogaeth fyddwn chi’n ei gynnig?
Cefnogir preswylwyr a’u hannog i fyw bywyd llawn ac egnïol, gan ddatblygu eu diddordebau a chynnal eu hiechyd a’u lles. Mae staff Grŵp Cynefin yn darparu cefnogaeth materion tai i bob tenant ac mae tîm gofal ymroddedig a phrofiadol ar y safle 24 awr y dydd. Bydd cynlluniau cefnogaeth a gofal personol hyblyg ar gael, pe bai angen, wedi eu datblygu gyda chi i weddu eich anghenion presennol ac i’r dyfodol.
Pa mor annibynnol fydda i?
Gyda’ch drws ffrynt eich hun, eich fflat yw eich cartref lle gallwch barhau i goginio, derbyn ymwelwyr a mwynhau byw’n annibynnol. O fewn pob fflat mae cegin, ystafell fyw, ystafell ymolchi ac ystafell wely. Mae’r cynllun wedi ei ddylunio i’ch galluogi i fyw yn eich cartref eich hun cyn hired â phosib ac i wneud byw’n annibynnol yn haws.
Fydd na gyfle i gymdeithasu ar y safle?
Wrth rentu fflat un neu ddwy ystafell wely yn Awel y Coleg, cewch hefyd fynediad i lolfa gymunedol lle mae cyfle i gymdeithasu â thrigolion eraill a mwynhau gweithgareddau fel celf a chrefft, boreau coffi, cwis, sesiynau ymarfer corff, canu mewn côr, sesiynau rhyng-genedlaethol gyda phlant a phobl ifanc lleol a gweithgareddau garddio. Mae ystafell grefftau hefyd ar gael i chi fwynhau a gweithio’n dawel.
Allan yn yr ardd yng nghanol y safle, cewch gyfle i ymlacio a mwynhau’r awyr iach. Mae byw yn Awel y Coleg yn eich galluogi i gynnal eich annibyniaeth a’ch preifatrwydd a chael y dewis i gymdeithasu a chyd-ymuno fel y dymunwch.
Oes prydau bwyd yn cael eu darparu?
Gweinir pryd canol dydd yn y bwyty cymunedol yn ddyddiol, gan roi’r cyfle i drigolion dderbyn pryd iach a blasus wrth sgwrsio dros ginio.
Os ydych chi neu aelod o’ch teulu eisiau sgwrs neu wybodaeth bellach am rentu fflat yn Awel y Coleg, yna cysylltwch â ni.
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 0300 111 2122 neu e-bostiwch: post@grwpcynefin.org
Nodweddion Allweddol:
- Eich tenantiaeth a’ch drws ffrynt eich hun
- Gofal a chefnogaeth ar gael 24 awr y dydd
- Gweithgareddau ac ymdeimlad cymunedol
- Gwasanaeth larwm, llinell gofal 24 awr ym mhob fflat
- Gwasanaeth cynnal a chadw brys 24 awr
- Pob fflat gyda chegin, ystafell ymolchi, ystafell wely a lolfa
- Dyluniad hwylus – cawodydd gyda mynediad lefel llawr, lifftiau a storfa sgwter
- System mynediad drws diogel
- Mannau cymunedol – lolfeydd ac ystafelloedd gweithgareddau
- Ystafell fwyta
- Golchdy
- Ystafell trin gwallt
- Ystafell i westeion aros
- Gardd a gofod patio y tu allan
- Digon o le i barcio ceir
Un o drigolion Awel y Coleg: “Rydym yn ffodus o fod yn byw mewn lle braf, efo staff gofalgar yn gweithio droson ni, ac yn gofalu’n annwyl iawn amdanom ni.”
Un o drigolion Awel y Coleg: “Mae wedi bod yn chwa o awyr iach cael canu gyda’r plant, ac wedi dwyn i gof atgofion melys iawn o’m cyfnod yn addysgu plant cynradd.”
Cynrychiolydd Canolfan Gerdd William Mathias: “Teimlwn bod y ddwy genhedlaeth wedi cyfoethogi bywydau ei gilydd trwy’r cynllun cerddorol yma a braf gweld y naill genhedlaeth yn dysgu oddi wrth y llall ac yn cyd-greu.”
Uwch Swyddog Pobl Hyn Grwp Cynefin: “Mae parhau i fod yn annibynnol a mwynhau’r pethau sydd wedi bod yn rhan annatod o’ch bywyd ers yn blentyn neu’n oedolyn yn bwysig iawn i drigolion Awel y Coleg. Yn wir, rydym yn annog gweithgareddau sy’n cyflyru’r corff a’r meddwl.”