08 Chw 2024

Ceisiadau ar agor ar gyfer comisiwn celf cymunedol cyffrous!

Fel rhan o ailddatblygiad Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Llys Awelon yn Rhuthun, mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin yn chwilio am artist neu artistiaid lleol i greu darn unigryw o gelf i’w fwynhau gan y trigolion, y staff ac ymwelwyr. Mae Grŵp Cynefin yn galw ar artistiaid o bob disgyblaeth i wneud cais am y comisiwn […]

07 Chw 2024

Rhybudd Oren!

Mae tywydd oer ar y ffordd gyda rhybudd oren am eira a rhew ar gyfer rhannau helaeth o’r gogledd ddydd Iau. Cadwch olwg ar y rhagolygon diweddaraf ar wefan y Swyddfa Dywydd a Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales a chadwch yn ddiogel. Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar gyda’n staff os bydd y […]

23 Ion 2024

Storm Jocelyn yn dod â gwyntoedd a glaw trwm.

Mae’r tywydd gwael yn parhau gyda Storm Jocelyn yn dod â gwyntoedd a glaw trwm. Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar gyda’n staff gan bod y galw yn uchel. Rydym yn addo delio gyda’ch ceisiadau cyn gynted ag y gallwn. Diolch am fod yn amyneddgar a chadwch yn ddiogel. Cadwch olwg ar y rhagolygon diweddaraf […]

21 Ion 2024

Rhybuddion tywydd drwg!

Mae’r tywydd gwael yn parhau, a rhybuddion o wyntoedd a glaw o ganlyniad i Storm Isha. Cadwch olwg ar y rhagolygon diweddaraf  ar wefan y Swyddfa Dywydd a Chyfoeth Naturiol Cymru Byddwch yn amyneddgar gyda’n staff gan bod y galw yn uchel. Efallai na fyddwn yn gallu delio gyda phob ymholiad yn syth oherwydd y […]

16 Ion 2024

Trawsnewidiad Llys Awelon yn gwneud cynnydd mawr

Mae partneriaid mewn cynllun gwerth £12.2 i ddiweddaru ac ymestyn cyfleuster Tai Gofal Ychwanegol Grŵp Cynefin yn Rhuthun wedi cael eu tywys o gwmpas y cynllun i gael cipolwg ar sut y bydd yn edrych yn y pen draw. Cafodd Prif Weithredwr Dros Dro Grŵp Cynefin, Mel Evans a’r Cadeirydd Tim Jones; Aelod Arweiniol Cabinet […]

20 Rhag 2023

Gorwel ar gael i newid bywydau – stori dwy

Mae’r Nadolig yn amser o  gynnig croeso cynnes ac agor ein cartrefi i deulu a ffrindiau. Bydd llawer ohonom yn ddigon ffodus i gael hynny ond i nifer cynyddol o bobl, mae gwyliau’r Nadolig yn dod â phryderon arian ac ofnau am y dyfodol. Serch hynny, mae yna sefydliadau a all helpu, ac mae Gorwel, […]

silhouette of a person holding a child in the sunset

01 Rhag 2023

Cefnogi ymgyrch yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu Grant Cymorth Tai

Mae Grŵp Cynefin yn cefnogi ymgyrch genedlaethol #HousingMattersWales sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu Grant Cymorth Tai yn 2024/25 Mae Gorwel, y rhan o Grŵp Cynefin sy’n darparu gwasanaethau i bobl sy’n profi cam-drin domestig, yn derbyn Grant Cymorth Tai ac wedi tynnu sylw yn ddiweddar at y twf syfrdanol yn y galw am […]

01 Tach 2023

Lawnsio cronfa grantiau yn ardal Rhuthun

Mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin wedi lawnsio cronfa gwerth £18,000 ar gyfer gweithgareddau i wella cymunedau yn ardal Rhuthun. Mae’r grantiau – o hyd at £1000 yr un – ar gael i grwpiau gwirfoddol a chymunedol sy’n gwneud gwahaniaeth a gwelliant yn eu hardal leol. Daw’r grantiau fel rhan o ail-ddatblygu Cynllun Tai Gofal Ychwanegol […]

25 Medi 2023

Grŵp Cynefin yn penodi Cadeirydd newydd i’w Fwrdd Rheoli

Mae Grŵp Cynefin wedi cadarnhau mai Tim Jones yw Cadeirydd newydd ei Fwrdd Rheoli. Mae Tim yn dod â phrofiad helaeth i’r grŵp wedi dal swyddogaethau amrywiol ar fyrddau yn genedlaethol ac ar lefel y DU, ac arbenigedd mewn gweithio gyda rhanddeiliaid o ystod eang o feysydd. Mae’n olynu Carys Edwards, daeth i ddiwedd ei […]

27 Gor 2023

Uned Grŵp Cynefin yn rhan o gynllun newydd o’r ysbyty i’r cartref yng Ngwynedd

Mae uned digartrefedd a chefnogaeth Grŵp Cynefin, Gorwel, yn bartner mewn gwasanaeth newydd i helpu pobl sydd wedi profi salwch meddwl i ddychwelyd gartre’ yn ddiogel ar ôl triniaeth ysbyty. Mae’r cynllun newydd fydd yn gweithredu yng Ngwynedd wedi ei ddatblygu trwy bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Gwynedd a Gorwel. Mae’r cynllun […]

Cookie Settings