27 Gor 2023

Uned Grŵp Cynefin yn rhan o gynllun newydd o’r ysbyty i’r cartref yng Ngwynedd

Mae uned digartrefedd a chefnogaeth Grŵp Cynefin, Gorwel, yn bartner mewn gwasanaeth newydd i helpu pobl sydd wedi profi salwch meddwl i ddychwelyd gartre’ yn ddiogel ar ôl triniaeth ysbyty. Mae’r cynllun newydd fydd yn gweithredu yng Ngwynedd wedi ei ddatblygu trwy bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Gwynedd a Gorwel. Mae’r cynllun […]

26 Meh 2023

Grŵp Cynefin yn annog cyfeillgarwch a sgwrs yn Ninbych

Annog sgwrs, cysylltiad a chyfeillgarwch rhwng pobol o bob oed. Dyna yw bwriad cynllun arbennig yn nhref Dinbych, sef ‘Meinciau Cyfeillgar Dinbych’. Cymdeithas dai Grŵp Cynefin a Chymunedau Bywiog Hamdden Sir Ddinbych sy’n cydweithio ar y prosiect arbennig hwn. Mae’n cynnwys gweithio gydag artistiaid a chymunedau lleol i greu cyfres o feinciau lliwgar a thrawiadol […]

05 Meh 2023

Bryn Ellis yn sefyll i lawr fel Cyfarwyddwr Adnoddau Grŵp Cynefin

Mae Cyfarwyddwr Adnoddau Grŵp Cynefin, Bryn Ellis, wedi penderfynu gadael ei rôl ar ôl rhoi dros 23 mlynedd o wasanaeth fel Cyfarwyddwr Gweithredol i Grŵp Cynefin ac un o’i ragflaenwyr, Cymdeithas Tai Clwyd, er mwyn canlyn heriau newydd. Hoffai pawb yn Grŵp Cynefin ddiolch i Bryn am ei gyfraniad ffyddlon i’r cwmni dros y cyfnod […]

16 Mai 2023

Shan Lloyd Williams yn sefyll i lawr fel Prif Weithredwr Grŵp Cynefin

Ar ôl pum mlynedd yng ngofal y gymdeithas dai yng ngogledd Cymru, mae Prif Weithredwr Grŵp Cynefin, Shan Lloyd Williams, yn rhoi’r gorau i’w rôl  er mwyn canolbwyntio ar brosiectau a diddordebau personol. Hoffai Grŵp Cynefin ddiolch i Shan am ei chyfraniad i’r gymdeithas dros y cyfnod hwnnw a dymuno pob llwyddiant iddi i’r dyfodol. […]

27 Maw 2023

Newid i’n Dyfarniad Rheoleiddio

Yn ddiweddar, cynhaliodd  Grŵp Cynefin adolygiad mewnol o rai rhannau o’r  busnes – gan gynnwys rheoli asedau a sut rydym yn cadw cofnodion.  Yn dilyn yr adolygiad hwn, gwnaethom y penderfyniad i gyfeirio ein hunain at y Rheoleiddiwr yn Llywodraeth Cymru gan ei fod yn glir nad oedd gennym y cofnodion a’r broses gywir i […]

30 Ion 2023

Cyllideb Llywodraeth Cymru yn bygwth gwasanaethau i’r digartref

Mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail-ystyried y penderfyniad i rewi cyllid ar gyfer gwasanaethau digartrefedd yng nghyllideb ddrafft 2023/24. Ymuna Grŵp Cynefin â Chymorth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru yn ymgyrch #MaterionTaiCymru, gan alw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r Grant Cymorth Tai yn eu Cyllideb Derfynol ar gyfer 2023/24. […]

20 Ion 2023

Cytundeb i ddarparu rhaglen ôl-osod ar draws gogledd Cymru ar agor i gontractwyr

Mae Grŵp Cynefin a Tai Gogledd Cymru yn gobeithio penodi prif gontractwr i ddarparu rhaglen ôl-osod (retrofit) gwerth £8.5m o waith ar gyfer tai cymdeithasol ar draws gogledd Cymru. Hyd y contract cychwynnol yw 12 mis gydag opsiwn i ymestyn i  24 mis arall. Bydd y contractwr llwyddiannus yn cyflawni gwaith ôl-osod ledled y rhanbarth, gan […]

25 Tach 2022

#YGôl Cefnogwch y tîm sy’n rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched

Mae uned  Grŵp Cynefin, Gorwel, yn galw ar gymunedau gogledd Cymru i gefnogi ymgyrch Diwrnod Rhuban Gwyn eleni – #YGôl – i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod  a merched. Fel rhan o’r ymgyrch, cynhaliodd Gorwel ddigwyddiad yng Nghlwb Pêl-droed Caernarfon i godi ymwybyddiaeth o’r effaith cam-drin domestig. Eleni mae Diwrnod y Rhuban Gwyn […]

Cookie Settings