07 Ion 2025

Tenantiaid wrth eu bodd yn dathlu’r Nadolig mewn cartrefi newydd

Cafodd grŵp o 21 o bobl hŷn yr anrheg Nadolig perffaith trwy symud i’w cartrefi newydd yn Nyffryn Clwyd. Symudodd y tenantiaid i’r fflatiau modern ynni effeithlon yng nghynllun tai gofal ychwanegol Grŵp Cynefin yn Llys Awelon, Rhuthun, mewn pryd ar gyfer y dathliadau. Dyma ddiwedd y wedd gyntaf o’r cynllun uchelgeisiol i ail-ddatblygu yn […]

03 Rhag 2024

Dathlu gwasanaeth sydd wedi’i ‘wreiddio yn y gymuned’

Mae HWB Dinbych Grŵp Cynefin wedi cael ei ganmol am ddarparu nid yn unig llety i’r rhai sy’n wynebu digartrefedd ond hefyd amrywiaeth o wasanaethau i helpu pobl ifanc i ddod yn fwy annibynnol a newid eu bywydau. Roedd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant, ymhlith y siaradwyr mewn digwyddiad […]

27 Tach 2024

Dathlu 10 mlynedd o gefnogaeth gymunedol ac atal digartrefedd yn Sir Ddinbych 

Mae canolfan fywiog sy’n darparu gwasanaethau pwysig ac atal digartrefedd yn Sir Ddinbych, yn dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed. Mae HWB Dinbych yn ganolfan gymunedol yn Ninbych sy’n cynnwys gwasanaeth tai â chymorth Yr Hafod. Grŵp Cynefin sy’n eu rhedeg, a lansiwyd hwy pan sefydlwyd y gymdeithas dai, 10 mlynedd yn ôl. I nodi’r […]

22 Tach 2024

Cydweithio i drawsnewid Llanrwst gyda blodau a gwenyn!

Mae tair cymdeithas dai wedi dod at ei gilydd i weithio gyda’r gymuned leol yn Llanrwst, i roi hwb i fywyd gwyllt lleol a thrawsnewid y dref gyda blodau. Ar 8 Tachwedd, daeth gwirfoddolwyr o gymdeithasau tai Grŵp  Cynefin, ClwydAlyn a Chartrefi Conwy at ei gilydd gyda phlant o Ysgol Bro Gwydir, gan blannu 4,500 […]

13 Tach 2024

Grŵp Cynefin yn recriwtio ar gyfer dyfodol cyffrous

  Mae Grŵp Cynefin yn cymryd camau cyffrous tuag at gyfnod newydd ac yn recriwtio ar gyfer ystod eang o swyddi penaethiaid. Mae hyn yn dilyn penodi pedwar cyfarwyddwyr newydd ym mis Hydref i weithio ochr yn ochr â Mel Evans, Prif Weithredwr Grwp Cynefin. Gydag uwch-dîm arweinyddiaeth newydd, bydd yr ystod o benaethiaid, y […]

31 Hyd 2024

Grŵp Cynefin yn cyrraedd rhestr fer Gwobrau Tai Cymru am ddwy wobr

Mae Grŵp Cynefin wedi eu henwebu am eu pedwaredd gwobr eleni. Llongyfarchiadau i’r Tîm Mentrau Cymunedol sydd wedi cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori yng Ngwobrau Tai Cymru a gynhelir yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr. Mae gwaith arbennig y tîm wedi cael ei gydnabod yng nghategori ‘Rhagoriaeth mewn craffu gan denantiaid’, am annog tenantiaid […]

18 Hyd 2024

Gwasanaeth diolchgarwch yn dod â chenedlaethau at ei gilydd yn y Bala

Mae gweithgareddau pontio’r cenedlaethau yn rhan bwysig o adeiladu cymunedau gwydn ac oed-gyfeillgar ledled Cymru. Gall dod â phlant a phobl hŷn at ei gilydd helpu i greu ymdeimlad cryfach o gymuned a lleihau unigedd. Mae prosiectau pontio’r cenedlaethau, gyda chefnogaeth arweinwyr oed-gyfeillgar a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn darparu cyfleoedd i bobl ddysgu oddi […]

15 Hyd 2024

Grŵp Cynefin yn camu i gyfnod newydd gyda thîm arweinyddiaeth newydd

Mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin, wedi penodi tri chyfarwyddwr newydd i’w uwch dîm arweinyddiaeth. Daw hyn yn dilyn penodi Mel Evans fel ei Brif Weithredwr newydd yn gynharach yn y flwyddyn. Nerys Price-Jones yw’r Cyfarwyddwr Pobl newydd, rôl newydd o fewn y cwmni, yn goruchwylio adnoddau dynol, mentrau cymunedol, gwasanaeth cwsmeriaid a chyfathrebu a marchnata. […]

14 Hyd 2024

Adolygu Cynnig Canolfan Lleu ym Mhenygroes

Mae cynlluniau Grŵp Cynefin ar gyfer canolfan gymunedol ym Mhenygroes, Gwynedd, yn symud ymlaen wedi cyfnod o adolygu a gwerthuso. Amcan canolfan newydd Canolfan Lleu yng nghanol pentref Penygroes yw darparu gwasanaethau cymunedol a swyddfeydd integredig newydd ar gyfer cymunedau Dyffryn Nantlle. Meddai Mel Evans, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin: “Mae gwaith mawr wedi cael ei wneud […]

Cookie Settings