Dogfennau perfformiad
Dogfennau perfformiad
Os ydych chi eisiau copi o ddogfennau blaenorol, mae croeso i chi gysylltu â Cyswllt Cynefin
Adroddiad Blynyddol
Mae’n adroddiadau blynyddol yn dangos y cynnydd a wnaethom dros y flwyddyn tuag at gyflawni ein nodau ac amcanion strategol.
Adroddiad Blynyddol 2023 – 2024
Adroddiad Blynyddol 2022 – 2023
Hunanwerthusiad
Cymrwch olwg ar ein crynodeb o’n hunanwerthusiad 2022 isod.
Cynllun Corfforaethol Grŵp Cynefin 2019-24
Mae’r cynllun corfforaethol yn egluro’r math o sefydliad rydym eisiau bod, ac wedi gosod blaenoriaethau i’w gweithredu dros gyfnod o 5 mlynedd. Gallwch lawrlwytho Crynodeb o Gynllun Corfforaethol Grŵp Cynefin 2019-24 yma
Gelwir y blaenoriaethau yma’n ‘nodau strategol’, ac mae nodau strategol Grŵp Cynefin yn cynnwys:
1. Cartrefi o Safon: Byddwn yn darparu cartrefi fforddiadwy o safon uchel sydd yn diwallu anghenion lleol
2. Gwasanaethau Rhagorol: Byddwn yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn gyson ar draws y grŵp
3. Gwella Bywydau: Byddwn yn darparu cymorth a chyfleoedd i bobl
4. Cynnal Cymunedau: Byddwn yn ymgysylltu â chymunedau lleol a byddwn yn gatalydd ar gyfer newid cadarnhaol
5. Twf Cadarn a Chynaliadwy: Byddwn yn arddangos yr arferion arweinyddiaeth, llywodraethu a rheolaeth gorau fel grŵp
Darllenwch Crynodeb o Gynllun Corfforaethol Grŵp Cynefin 2019-24 isod
Dyfarniad Rheoleiddio
Mae Grŵp Cynefin yn Landlord Cymdeithasol Cofresterdig, a mae hyn yn golygu ein bod yn cael ein Rheoleiddio gan Tîm Rheoleiddio Tai, Llywodraethu Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau sy’n nodi’r amcanion y disgwylir i bob Cymdeithas Dai eu darparu, sy’n ymwneud â gwasanaethau tai, llywodraethu a rheolaeth ariannol.
Yn flynyddol, fel rhan o’r broses Rheoleiddio, bydd Grŵp Cynefin yn cynnal hunan-asesiad o’n gweithgareddau er mwyn dangos sut rydym yn cwrdd a’r canllawiau perthnasol. Bydd yr hunan-asesiad yma wedyn yn cael ei rannu gyda Thîm Rheoleiddio Tai Llywodraeth Cymru, sydd yn herio’r cynnwys ag yn edrych yn ôl dros y flwyddyn ar ein cyflawniadau. Canlyniad hyn yw adroddiad sy’n cael ei chyhoeddi gan Llywodraeth Cymru.
Dyfarniad Rheoleiddiol Mai 2024
Dyfarniad Rheoleiddiol Mawrth 2023