Dod i ‘nabod y Bwrdd Rheoli
Tim Jones, Cadeirydd
Gyda phrofiad helaeth o weithio ar lefel strategol mewn corff cyhoeddus, roedd yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau i Gyfoeth Naturiol Cymru cyn ymddeol. Mae bellach yn eistedd ar ambell fwrdd rheoli gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac yn gyn-gadeirydd bwrdd Canllaw, is-gwmni Grŵp Cynefin
Siôn Fôn, Is-gadeirydd
Cyfreithiwr i gwmni Darwin Gray LLP, ac yn arbenigo mewn cyfraith tai, tenantiaeth ac eiddo.
Jane Lewis
Profiad helaeth yn y maes Cyllid a Rheolaeth Trysorlys o fewn y sector iechyd, ac wedi bod yn aelod o sawl Bwrdd.
Nigel Finney
Uwch Swyddog Gweithredol am 20 mlynedd, mae gan Nigel wybodaeth a phrofiad eang o bob agwedd o redeg ac arwain cymdeithasau tai llwyddiannus, effeithlon, sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid.
David Lloyd
Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer TPAS Cymru – sefydliad nid-er-elw sy’n gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol, tenantiaid a Llywodraeth Cymru i helpu i siapio gwasanaethau tai a pholisi cenedlaethol.
Llinos Iorwerth
Perchennog ATEB Cymru a Chyn-bennaeth Cyfathrebu.
Mike Corfield
Prif Weithredwr Cymdeithas Dai yn Lloegr. Mae ganddo brofiad helaeth yn y maes tai cymdeithasol ac mae’n aelod o nifer o Fyrddau Rheoli.
Ken Beech
Cyn Gyfarwyddwr, Diogelwch Adeiladu a Rheoli Portffolio Homes-England. Bu hefyd yn dal amryw o rolau eraill yn y diwydiant Bancio.
Tony Oakley
Cyn Gyfarwyddwr o fewn Centrus sy’n darparu cyngor cyllid corfforaethol i ystod o gleientiaid ar draws sectorau. Cyn ymuno â Centrus roedd Tony yn Bennaeth Tîm Cyllid Tai Cymdeithasol Banc Lloyds.
Sally Baxter
Cyn Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd a phrofiad helaeth ar lefel Bwrdd yn y GIG.
Delyth Lloyd
Cyn aelod o uwch-dim rheoli cymdeithas dai a dros 20 mlynedd o brofiad mewn swyddi cyfathrebu a materion cyhoeddus ar draws y sector gyhoeddus, preifat a gwirfoddol.
Paul Robinson
Rheolwr Llywodraethu, Rheoleiddio a Chydymffurfio profiadol, ac Ysgrifennydd y Cwmni. Hefyd yn aelod Bwrdd profiadol.
David Lewis
Profiad helaeth yn y maes rheoli asedau ar lefel gweithredol a strategol. Mae ganddo hefyd gymwysterau proffesiynol cydymffurfiaeth niferus.