Yr hyn sy’n bwysig i ni yw ein bod yn rhoi’r
gwasanaeth gorau posibl i chi

Er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud hyn, mae angen i chi ddweud wrthym beth rydym yn ei wneud yn dda, a lle gallwn wella.

Er ein bod ni’n ceisio sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth yn iawn y tro cyntaf, weithiau mae pethau’n mynd o chwith neu fe allem ni fod wedi gwneud pethau’n well. Yn ogystal, pan fyddwn ni wedi gwneud pethau’n iawn, rydym yn gwerthfawrogi eich diolchiadau a’r sylwadau cadarnhaol yn fawr iawn. Mi allwn ni wedyn rannu hynny fel arfer da ymysg staff er mwyn sicrhau fod ein gwasanaeth yn gwella o hyd. Y naill ffordd neu’r llall, rydym ni am i chi ddweud wrthym.

Sut i fynegi barn am wasanaethau’r Gymdeithas?

Canmol

Hoffem glywed os ydych chi wedi’ch plesio gyda’n gwasanaeth. Mi allwn ni wedyn rannu hyn fel arfer da ymysg staff er mwyn sicrhau fod ein gwasanaeth yn gwella o hyd.

Sut i ganmol?

Os ydych chi’n dymuno gwneud canmoliaeth, mae croeso i chi gysylltu â’r Tîm Gwasanaethau Cwsmer ar

  • 03001112122
  • post@grwpcynefin.org
  • Cysylltwch â ni
  • Cwblhewch y ffurflen Canmol neu Gwyno isod.

Cwyno

Os ydych chi’n anfodlon efo rhywbeth, rydym yn argymell eich bod chi’n sgwrsio â ni yn gyntaf drwy gysylltu â’r tîm neu’r unigolyn fu’n delio efo’r mater dan sylw. Gall fod;

  • eich bod yn anhapus efo ansawdd gwaith trwsio, neu’r amser gymerwyd i orffen gwaith trwsio.
  • ynglŷn â diffyg gwybodaeth, camgymeriad neu gamddealltwriaeth y gellir ei ddatrys ar unwaith.

Lle bynnag y bo modd,bydd y tîm neu’r unigolyn yn ceisio datrys y mater i chi yn y fan a’r lle neu, os na fedrant, mi gewch wybod beth yw’r camau nesaf a phryd y bydd hynny’n cael ei wneud.

Beth i’w wneud os oes gennych gŵyn?

Os ydych chi’n parhau i deimlo’n anfodlon ar ôl cwyno’n anffurfiol, neu os yw’r mater o fath na ellir delio efo fo yn anffurfiol fel yr awgrymir uchod, yna gallwch gyflwyno’r mater fel cwyn ffurfiol drwy gysylltu â’n Uwch Swyddog Perfformiad ar 0300 111 2122 / anfon neges ebost post@grwpcynefin.org neu gwblhau’r ffurflen isod.  Bydd y Swyddog yma’n gweithredu’n annibynnol, ac yn esbonio’r drefn cwynion a beth fydd yn digwydd nesaf, fel y nodir yn ein Polisi Cwynion.

Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd ydym ni wedi delio gyda’ch cwyn, mae croeso i chi wedyn gysylltu â’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Manylion cysylltu’r Ombwdsmon:

0300 790 0203

holwch@ombudsman-wales.org.uk

www.ombwdsmon.cymru

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,
1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed CF35 5LJ

Canmol neu Gwyno

"*" Yn nodi maes gorfodol

Canmol neu Gwyno*
Cookie Settings