Gorwel ar gael i newid bywydau – stori dwy
Mae’r Nadolig yn amser o gynnig croeso cynnes ac agor ein cartrefi i deulu a ffrindiau. Bydd llawer ohonom yn ddigon ffodus i gael hynny ond i nifer cynyddol o bobl, mae gwyliau’r Nadolig yn dod â phryderon arian ac ofnau am y dyfodol.
Serch hynny, mae yna sefydliadau a all helpu, ac mae Gorwel, sy’n uned o fewn cymdeithas dai Grŵp Cynefin, yn un ohonyn nhw. Gyda gwasanaethau ar draws gogledd Cymru, mae Gorwel yn cynnig cymorth i bobl sy’n delio â phroblemau a allai arwain at ddigartrefedd os na chaiff sylw.
Yma rydym yn siarad â dwy fenyw – un yn dechrau ar ei siwrnai ac un yn myfyrio wrth edrych yn ôl – sydd wedi wynebu anawsterau ond gyda chymorth Gorwel, wedi goresgyn heriau ac yn edrych yn optimistaidd tuag at dyfodol.
Mae eu neges yn glir, gall bywyd newid er gwell os gofynnwch am help.
Stori Olivia:
Roedd Olivia* wedi bod i mewn ac allan o wasanaethau digartrefedd ers pan oedd yn 16 oed pan ddywedodd ei mam na allai fyw gartref mwyach. Treuliodd flwyddyn mewn hostel ac er ei bod eisiau byw ar ei phen ei hun, nid oedd hi’n barod, “Roeddwn i eisiau fy lle fy hun ond ni allwn ymdopi ac roeddwn i fyny ac i lawr yn feddyliol mewn gwirionedd”. Yn ystod Covid, gwaethygodd pethau; “Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd iawn, doeddwn i ddim yn gallu cael swydd ac nid oedd gen i unrhyw un i helpu.” Aeth yn ôl at ei theulu ond ni weithiodd pethau allan ac roedd yn ôl yn aros mewn gwestai a llety dros dro. Yna cynigiwyd fflat iddi gan Gorwel yn Yr Hafod yn Ninbych. Ochr yn ochr â 6 fflat hunangynhwysol o ansawdd uchel, mae’r Hafod yn darparu cymorth 24 awr i rai 16 i 25 oed sy’n wynebu digartrefedd. Mae hefyd yn eu cysylltu â gwasanaethau eraill a ddarperir gan HWB Dinbych, canolfan Grŵp Cynefin, sydd wedi’i leoli yn yr un adeilad.
Dyma lle dechreuodd pethau newid i Olivia. “Es i’r coleg a chael cymwysterau Lefel A. Roedd mor anodd – doeddwn i ddim eisiau mynd ond roeddwn i’n gwybod bod yn rhaid i mi ddal i wthio fy hun. Fe wnaeth fy ngweithiwr cymorth fy helpu i gael cyllid i ddysgu gyrru ac rydw i wedi pasio fy theori. Rwyf hefyd wedi gwneud rhai sesiynau therapi.”
Mae Olivia bellach yn teimlo y gall fyw ar ei phen ei hun ac yn cynllunio i symud o’r Hafod ym mis Ionawr. Yna mae’n bwriadu mynd i Brifysgol Manceinion yn 2025 i astudio ysgrifennu creadigol.
Fe wnaethom ofyn i Olivia beth mae hi wedi’i ddysgu o’i phrofiadau a beth fyddai’n ei ddweud wrth eraill sy’n wynebu heriau tebyg:
“Fe wnes i barhau i ganolbwyntio ar y tymor hir – roeddwn i’n gwybod os oeddwn i eisiau i’r dyfodol fod yn wahanol i’r gorffennol, roedd yn rhaid i mi wneud i hynny ddigwydd. Yn bendant fyddwn i ddim wedi cyrraedd lle rydw i nawr heb Gorwel a fy ngweithiwr cymorth. Fe wnaethon nhw roi sefydlogrwydd i mi, fy rhoi mewn cysylltiad â grantiau a fy helpu i fyw’n annibynnol. Ond roedd yn rhaid i mi gymryd cyfrifoldeb a chanolbwyntio nid ar y gorffennol ond ar yr hyn yr oeddwn am i fy nyfodol fod.”
Stori Norma:
Daeth Norma i gysylltiad â Gorwel am y tro cyntaf pan oedd yn yr ysbyty. “Rwy’n cofio gweld dynes yn mynd rownd yn siarad â phobl yn y gwelyau gwahanol a meddyliais y byswn yn smalio fy mod yn cysgu, ond daeth hi draw a chawsom sgwrs.” Doedd gŵr Norma ddim yn iach chwaith. Roedd ganddo COPD a phroblemau’r galon, ac er bod eu pedair merch yn gofalu am y ddau gymaint ag y gallent, roedd yn dal yn anodd delio â’i phroblemau iechyd ei hun a gofalu am ei gŵr. Bu gweithiwr cymorth Gorwel yn helpu Norma drwy gydol y cyfnod hwn a chafodd lwfans gweini. Ar ôl peth amser bu’n rhaid i Joe, ei gŵr, gael gofal lliniarol a bu farw’n ddiweddarach.
Meddai Norma: “Doeddwn i ddim yn gwybod dim am hawlio pethau. Ar ôl i Joe farw roedd yn rhaid i mi gario ymlaen ac fe helpodd hi fi tra roeddwn i’n galaru.” Trefnodd Gorwel addasiadau hefyd a chefnogodd Norma pan oedd problemau gyda’r cwmnïau cyfleustodau. Flwyddyn yn ddiweddarach symudodd Norma i dŷ a helpodd y gweithiwr cymorth hi i ddelio â chamddealltwriaeth ynghylch treth cyngor.
Fe wnaethom ofyn i Norma beth mae’r gwasanaethau wedi’i olygu iddi a beth fyddai’n ei ddweud wrth unrhyw un mewn sefyllfa debyg. Dywedodd wrthym, “Rydw i wedi cael bywyd gwych ac mae gen i bedair merch hyfryd ond mae’r tair blynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd iawn. Doeddwn i ddim eisiau rhoi’r baich i gyd ar fy nheulu. Gofalodd fy ngweithiwr cymorth amdanaf pan fu farw Joe, ymladdodd drosof bob cam o’r ffordd gyda’r cwmni nwy a’r cyngor, ac roedd mor gymwynasgar a charedig. Byddwn wedi bod yn ddifrifol wael yn feddyliol gyda phopeth a ddigwyddodd oni bai amdani hi.”
Ychwanegodd, “Os oes unrhyw un yn wynebu’r math o bethau rydw i wedi eu hwynebu, byddwn i’n dweud wrthych am roi galwad i Gorwel. Os ydych chi mewn trafferth, fe fyddan nhw yno i chi. Gallant helpu mewn ffyrdd na allech chi ddychmygu. Nhw yw fy angylion gwarcheidiol.”
Wrth fyfyrio ar bwysigrwydd y gwasanaethau y mae Gorwel yn eu darparu, dywedodd Jane Dodds AS, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru:
“Mae cyfnod y Nadolig i fod i gynrychioli haelioni a ffyniant i bawb, ond i gynifer o bobl gall deimlo fel popeth ond hynny. Mae llawer gormod o bobl eleni yn wynebu’r risg o golli eu cartrefi. Y tu ôl i bob ystadegyn ar ddigartrefedd mae person neu deulu yn erfyn am help. Rhaid i ni fel cenedl fod yn dosturiol tuag at y rhai sydd angen ein cymorth, nid yn unig yn ystod cyfnod y Nadolig ond trwy gydol y flwyddyn.
Mae gwasanaethau fel Gorwel yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod pobl yn cael eu cadw’n ddiogel ac oddi ar y strydoedd y gaeaf hwn. Hoffwn dalu teyrnged i bawb a fydd yn parhau i sicrhau, dros gyfnod y Nadolig, bod y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael gofal a’u hamddiffyn.”
The Future Generations Commissioner, Derek Walker told us, “A safe and secure home is core to a child having a bright and optimistic future. Too many young people are growing up without this in Wales and numbers are rising. Despite the economic challenges, public bodies need to find a way to address this to make sure our children now and in the future can thrive and Wales can be a better place for all of us.”
Meddai Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Derek Walker: “Mae cartref saff a diogel yn greiddiol i alluogi i blentyn gael dyfodol disglair ac optimistaidd. Mae gormod o bobl ifanc yn tyfu i fyny heb hyn yng Nghymru ac mae niferoedd yn codi. Er yr heriau economaidd, mae angen i gyrff cyhoeddus ddod o hyd i ffyrdd o fynd i’r afael â hyn i wneud yn siŵr bod ein plant yn gallu ffynnu nawr ac yn y dyfodol a bod Cymru’n gallu bod yn lle gwell i bob un ohonom.”
Mae modd cysylltu i gael gwasanaeth Gorwel ar 0300 111 2121 neu gorwel@gorwel.org