Dweud eich dweud / Cymryd rhan
Rydych chi, ein tenantiaid, wrth galon popeth a wnawn – a rydym yma i wrando arnoch chi.
Gallwch wir wneud gwahaniaeth i sut mae Grŵp Cynefin yn gwella a siapio eu gwasanaethau.
Mae hyn yn golygu y gallwch chi fod yn rhan o wneud y penderfyniadau sy’n effeithio arnoch chi, eich cartref a’ch cymuned.
Byddwch yn:
Mae yna lawer o ffyrdd i ddweud eich dweud a cymryd rhan yn ffurfiol ac yn anffurfiol:
Mwy o wybodaeth ar y daflen Cymryd Rhan yma
Beth sydd ymlaen?
Gwibdaith 2024
Ym mis Awst bydd ein staff yn mynd ar Wibdaith o amgylch gwahanol stadoedd i roi cymorth i denantiaid gyda heriau costau byw. Manylion ar y linc isod o pa stadoedd rydym yn ymweld â nhw!
Edrychwn ymlaen i’ch gweld am sgwrs! (Bydd y Wibdaith nesa’ ym mis Medi).
Grŵp Tenantiaid (wythnosol ar-lein)
Bob dydd Iau cynhelir cyfarfodydd ar-lein gyda grwpiau tenantiaid – ffordd wych o gadw mewn cysylltiad a derbyn barn tenantiaid ar ein gwasanaethau! Ydych chi’n denant i Grŵp Cynefin a diddordeb cymryd rhan? Cysylltwch â’r Tîm Mentrau Cymunedol am fwy o wybodaeth. 0300 111 2122 / mentraucymunedol@grwpcynefin.org.
ECymru - sesiynau ar-lein
ECymru
Mae Grŵp Cynefin yn rhan o eCymru, porth tai sy’n cysylltu cymunedau Cymru. Mae eCymru yn cynnig mynediad i ddigwyddiadau a chyfleoedd ymgysylltu a dysgu’n electronig a fedr helpu tenantiaid i fyw bywydau hapusach ac iachach.
I archebu lle neu i weld beth sydd gan eCymru i’w gynnig, ewch i’r wefan: www.ecymru.co.uk
Siopwyr Dirgel
![🕵️♀️](https://static.xx.fbcdn.net/images/emoji.php/v9/tf2/1.5/16/1f575_200d_2640.png)
![](https://www.grwpcynefin.org/wp-content/uploads/2024/03/Siopwyr-dirgel-339x480.png)
Eisiau dweud eich dweud? Cwblhewch y ffurflen isod neu cysylltwch â’r Tîm Mentrau Cymunedol.
mentraucymunedol.org
0300 111 2122.