Yma i’ch Cefnogi

Mae Timau Lles a Chasglu Incwm Grŵp Cynefin yma i’ch cefnogi chi a darparu cyngor arbenigol ar hawlio budd-daliadau, cynyddu incwm, rheoli dyled a chyngor ariannol.

Cysylltwch â Timlles@GrwpCynefin.org neu ffoniwch 0300 1112122 i siarad ag aelod o’r Tîm Lles.

Talu rhent

Mae na fwy nag un ffordd y gallwch chi dalu rhent:

  • Trwy ApCynefin: Dolen i ApCynefin
  • Ffurflen talu ar-lein: Dolen i’r ffurlen dalu ar-lein
  • Trwy App Talu ar eich ffôn symudol – Dolen i’r app talu
  • Debyd uniongyrchol / taliad cerdyn debyd / talu dros y ffôn – ffoniwch ni i drefnu taliadau rheolaidd – 0300 111 2122
  • Cerdyn rhent yn y Swyddfa Bost – cewch dalu gydag arian parod, siec neu gerdyn debyd
  • Cerdyn rhent mewn lleoliad PayPoint – cewch dalu gydag arian parod neu gerdyn debyd

 

Cysylltwch â ni os ydych chi angen cerdyn rhent ar 0300 111 2122.

Tenantiaeth wythnosol

Byddwn yn codi rhent ar y dydd Llun bob wythnos. Er y byddai’n well gennym i chi dalu ar ddydd Llun, mi allwch chi dalu unrhyw ddiwrnod o’r wythnos cyn amser cinio dydd Sul yr wythnos honno.  Os byddai’n well gennych chi dalu bob pythefnos, 4 wythnos neu bob mis, mae croeso i chi wneud hynny ond bydd angen i ni gael y taliadau ymlaen llaw.

 

Tenantiaeth misol

Byddwn yn codi rhent ar y 1af o bob mis. Er y byddai’n well gennym i chi dalu ar y 1af o’r mis, mi allwch chi dalu yn ystod y mis cyn belled bod y taliad yn ein cyrraedd cyn amser cinio diwrnod ola’r mis hwnnw.

Dynes yn dal ffon gydag ApCynefin arno.

ApCynefin

Eisiau ffordd hawdd o dalu rhent?  Lawrlwythwch ein app!

awyr las gydag enfys ar draws hanner y llun

Cyswllt Cynefin

Os ydych chi eisiau help i dalu rhent, cysylltwch â ni.

Budd-daliadau

Dyma ddolen i Gyfrifiannell Budd-daliadau a Chyllidebu sy’n hawdd i’w ddefnyddio. Mi allwch chi weld

  • faint o fudd-dal ddylech chi gael
  • faint mwy o arian allech chi gael yn gweithio
  • sut y gall newidiadau yn eich cyllideb cartref effeithio ar eich incwm.

 

Gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell am ddim ac mae hefyd yn ffordd i chi wirio eich incwm a gwariant.

Cyfrifiannell budd-daliadau

Tâl Gwasanaeth

Dyma wybodaeth am beth yw tâl gwasanaeth, sut caiff y tâl gwasanaeth ei gyfrifo a rhestr o wahanol engrheifftiau.

Datganiad tâl gwasanaeth

 

Cookie Settings