Meinciau Cyfeillgar Dinbych
Mae Grŵp Cynefin a Cymunedau Bywiog Hamdden Sir Ddinbych yn cydweithio ar brosiect arbennig ‘Meinciau Cyfeillgar Dinbych’.
Mae’r bartneriaeth yn golygu cydweithio gyda artistiaid lleol i drawsnewid meinciau yn nhref Dinbych. Y syniad yw creu mannau cymdeithasol ble bydd pobl yn adnabod y meinciau fel rhywle i gysylltu hefo’i gilydd – gan annog cyfeillgarwch ar draws y cenedlaethau a lleihau unigrwydd.
Mae pum mainc wedi neu yn y broses o gael eu trawsnewid fel rhan o’r prosiect, gydag artist gwahanol lleol yn cyd-weithio â gwahanol grwpiau neu ysgolion lleol a thema wahanol i bob mainc.
Onid ydyn nhw’n edrych yn anhygoel?!
Ariannir y prosiect gan Grŵp Cynefin, Cymunedau Bywiog Hamdden Sir Ddinbych a derbyniwyd grantiau gan DVSC a Chyngor Tref Dinbych – rydyn ni’n ddiolchgar iawn o’u cefnogaeth.
Mainc 1
Artist: Eleri Jones
Grŵp: 11 ysgol gynradd lleol yn ardal Dinbych
Lleoliad y fainc: Awel y Dyffryn, Dinbych
Dyma’r fainc gyntaf i’w chreu fel rhan o’r prosiect. Bu’r artist Eleri Jones yn cyd-weithio hefo disgyblion o 11 ysgol gynradd lleol yn archwilio pobl, diwylliant a threftadaeth Dinbych. Crëwyd delweddau o arwyr lleol yr ardal megis Twm o’r Nant, Orig Williams a Kate Roberts a pheintiwyd rhain ar y fainc ynghŷd a’u henwau.
Cafodd y fainc ei pheintio ar faes Eisteddfod yr Urdd, Dinbych 2022 gydag Eleri yn cael ei hysbrydoli hefyd gan bobl yn pasio ar y maes er mwyn gorffen gydag ychwanegiadau bywiog.
Mainc 2
Artist: Rhi Moxon
Grŵp: Criw Celf HWB Dinbych
Lleoliad y fainc: Caledfryn, Ffordd y Ffair, Dinbych
Mainc 3
Artist: Tara Dean
Grŵp: Disgyblion Ysgol Twm o’r Nant a trigolion Awel y Dyffryn
Lleoliad y fainc: Ffordd Llandyrnog, Dinbych
Cynhaliwyd sesiwn trafod gyda’r artist Tara Dean, disgyblion Ysgol Twm o’r Nant a thrigolion Cynllun Gofal Ychwanegol Grŵp Cynefin, Awel y Dyffryn yn Ninbych. Roedd yn sesiwn hel syniadau tra’n pontio’r cenedlaethau.
Dywedodd yr artist Tara Dean
“Cawsom gymaint o syniadau am Ddinbych a’i le yn Nyffryn Clwyd. Roedd yr haul a’r machlud dros Fryniau Clwyd yn gymaint o sylw yng nghynlluniau pawb. Roedd syniadau eraill yn cynnwys tai’r dref, y clwb pêl-droed, y parc sglefrio, Castell Dinbych, enfys, cennin pedr, ‘Forget me nots’, Pabi a fflagiau!
Wrth ddisgrifio Dinbych a’i lle yn y tirwedd, tyfodd y dyluniad terfynol o’r syniad o weithio gyda sylfaen o dri lliw – melyn, gwyrdd a glas a gwau popeth i’r patrwm gyda’r gobaith y bydd pobl yn eistedd ar y fainc ac yn trin a thrafod y gwahanol elfennau.
Mae wedi bod yn brosiect gwych i fod yn rhan ohono ac yn ysbrydoliaeth i weithio gyda disgyblion blwyddyn 6 a phawb yn Awel Y Dyffryn”
Mainc 4
Artist: Georgina Haf Robertshaw
Grŵp: Grŵp Forget me not Dinbych
Lleoliad y fainc: Ffordd Brwcws, ar bwys afon Ystrad, Dinbych
Mainc 5
Artist: Chloe Dymond
Grŵp: Disgyblion Ysgol Pendref
Lleoliad y fainc: Stryd Henllan ger Eglwys y Santes Fair, Dinbych
Bu Chloe yr artist yn gweithio gyda disgyblion Ysgol Pendref yn Ninbych ar y fainc yma sydd wedi ei lleoli ar waelod Stryd Henllan ger Eglwys y Santes Fair, Dinbych.
“Roedd yn bleser pur cael gweithio ar brosiect meinciau cyfeillgar Dinbych gyda Grŵp Cynefin ac Ysgol Pendref.
Fe dreuliodd y myfyrwyr ysgol a minnau amser gyda’n gilydd a thrafod beth roedden nhw’n teimlo oedd Dinbych yn ei olygu iddyn nhw a sut roedden nhw am i’r fainc edrych yn y gymuned. Y teimlad cyffredinol oedd y dylai fod ‘yn Gymraeg, yn ‘Dinbych’ ac yn groesawgar’. Dwi’n gobeithio bydd fy nyluniad yn cyrraedd disgwyliadau’r plant.
Roedd dylunio a pheintio’r fainc yn brofiad gwych, roedd gallu siarad â phobl leol wrth beintio yn profi gall mainc gynnes a chroesawgar sbarduno sgwrs a gobeithio bydd yn parhau i wneud hynny.”