Grŵp Cynefin yn ehangu ei ardal i Fachynlleth
Grŵp Cynefin yn ehangu ei ardal i Fachynlleth
Mae gan denantiaid 53 o gartrefi ym Mhowys landlord newydd sbon wrth i gymdeithas dai Grŵp Cynefin ehangu ei hardal weithredol i Fachynlleth. Cyn bo hir bydd y grŵp yn cymryd drosodd y gwaith o reoli 53 eiddo gan Wales & West Housing. Maent yn cynnwys 51 o gartrefi ym Machynlleth a dau ym mhentref Llanbrynmair, ac yn gyfuniad o dai cymdeithasol a thai gwarchod.
Mae Grŵp Cynefin yn gymdeithas tai flaenllaw yng ngogledd Cymru a gogledd Powys, yn gweithredu ar draws saith sir ac yn rheoli bron i 4600 o eiddo. Mae wedi ennill gwobrau am ei waith yn cefnogi tenantiaid, mentrau cymunedol, partneriaethau ac mae’n arwain yn benodol ar ddatblygu atebion i’r argyfwng tai gwledig presennol gyda thai fforddiadwy i’w prynu a’u rhentu.
“Rydyn ni’n falch iawn gyda’r caffaeliad hwn” meddai Mel Evans, Cyfarwyddwr Arloesedd a Thwf, Grŵp Cynefin.
“Rydyn ni’n falch iawn gyda’r caffaeliad hwn. Rydyn ni’n ymfalchïo yn ein gwaith o gefnogi ein tenantiaid a darparu gwasanaeth effeithiol ar eu cyfer,” meddai Mel Evans, Cyfarwyddwr Arloesedd a Thwf, Grŵp Cynefin:
“Mae’n ymdrech barhaus i ni i ddarparu’r gefnogaeth a’r gwasanaethau gorau ac rydyn ni rŵan yn edrych ymlaen at weithio gyda’n tenantiaid newydd ym Machynlleth a’r gymuned leol.”
“Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â thenantiaid a dod i adnabod y gymuned” meddai Carys Edwards, Cadeirydd Bwrdd Rheoli Grŵp Cynefin.
Meddai Carys Edwards, Cadeirydd Bwrdd Rheoli Grŵp Cynefin: “Mae hwn yn gam cadarnhaol i Grŵp Cynefin ac mae’n gweddu i’r grŵp a Machynlleth. Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â thenantiaid a dod i adnabod y gymuned. Rydyn ni’n rhoi pwyslais mawr ar leisiau tenantiaid, gyda chynrychiolaeth ar y Bwrdd a Phwyllgor Cwsmeriaid a Chymuned ymroddedig. Mae gan denantiaid lais cryf wrth ddatblygu strategaethau a datblygiadau o fewn y grŵp ac rwy’n edrych ymlaen at glywed acen Maldwyn ymhlith y lleisiau hynny!”
Mae Grŵp Cynefin, sy’n cynnwys dau is-gwmni, yn cyflogi mwy na 300 o aelodau staff ac yn rheoli 4600 o gartrefi.
Mae datblygiadau diweddar Grŵp Cynefin yn cynnwys Awel y Dyffryn, cynllun tai gofal ychwanegol gwerth £12 miliwn sy’n darparu 66 o fflatiau i bobl hŷn yng nghanol Dinbych, cartrefi carbon isel newydd sbon i bobl leol a theuluoedd ar stadau yn Waunfawr, Bethesda, Penygroes a Gwalchmai a lansiad dogfen weledigaeth ar gyfer cynllun iechyd a chymunedol arloesol gwerth £38 miliwn ar gyfer Dyffryn Nantlle.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mari Williams
Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, Grŵp Cynefin
Mari.Williams@grwpcynefin.org