Ymaelodi â Grŵp Cynefin
Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni’n deall ac yn gwrando ar y gymuned rydyn ni’n gweithio ynddi, rydyn ni angen unigolion a sefydliadau i ymaelodi â Grŵp Cynefin.
Ymaelodi gyda Grŵp Cynefin
Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni’n deall ac yn gwrando ar y gymuned rydyn ni’n gweithio ynddi, rydyn ni angen unigolion a sefydliadau i ymaelodi gyda Grŵp Cynefin.
Byddem yn hoffi clywed gan:
- Unigolion
- Grwpiau, mudiadau a sefydliadau lleol megis Cynghorau Cymuned a Thref
- Tenantiaid
sy’n cytuno gyda’n amcanion fel cymdeithas dai ac yn fodlon gweithredu er budd y gymdeithas a’r gymuned.
Faint mae’n gostio?
Mae’n costio £1 i ymaelodi. Mi fyddwch chi wedyn yn cael copi o’r adroddiad blynyddol ac yn cael gwahoddiad i’r Cyfarfod Blynyddol neu’r Cyfarfod Cyffredinol.
Bwrdd Rheoli
Yn ystod Cyfarfod Blynyddol yr aelodau, mi fydd cyfle i ddewis aelodau i fod ar y Bwrdd Rheoli am gyfnod penodol o amser.
dyn a dynes yn edrych yn hapus, gyda merch fach ar ysgwyddau y dyn yn gafael mewn balwn
Sut alla i ymuno?
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth a ffurflen gais