Canolfan Lleu, Penygroes
Bydd Canolfan Lleu yn cefnogi iechyd a lles pobl leol ac yn leoliad i gymdeithasu ac uno cryfderau’r gymuned.
Mae Canolfan Lleu yn gynllun newydd iechyd a lles gwerth £38 miliwn.
Grŵp Cynefin sy’n arwain ar y prosiect uchelgeisiol, a enwyd yn ‘Canolfan Lleu’ am y tro, gyda’i bartneriaid Cyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Theatr Bara Caws yn chwarae rhan ganolog yn y cynlluniau.
Y weledigaeth yw i greu canolfan gymunedol arloesol yng nghanol Penygroes, i wasanaethu’r pentref, holl gymunedau Dyffryn Nantlle a thu hwnt.
Nod Canolfan Lleu yw cryfhau cymunedau ar draws y dyffryn, gan gefnogi iechyd a llesiant pobl drwy amrywiaeth o wasanaethau traddodiadol ac ataliol.
Bydd yn cynnig lle i gymdeithasu a chysylltu pobl, un lleoliad i gael mynediad i wasanaethau iechyd, tai, gwasanaethau cymunedol a gwasanaethau’r cyngor, gan gryfhau’r economi leol.
Mae copi o weledigaeth llawn Canolfan Lleu ar gael trwy gysylltu â ni.
![llun artist o Ganolfan Lleu](https://www.grwpcynefin.org/wp-content/uploads/2022/04/canolfan-lleu-4.bmp)
![llun artist o Ganolfan Lleu](https://www.grwpcynefin.org/wp-content/uploads/2022/04/canolfan-lleu-2.bmp)
![llun artist o Ganolfan Lleu yn y nos](https://www.grwpcynefin.org/wp-content/uploads/2022/04/canolfan-lleu-6.bmp)
![Llun artist o Ganolfan Lleu](https://www.grwpcynefin.org/wp-content/uploads/2022/03/canolfan-lleu-3.bmp)
![Llun artist o sut fydd yn ganolfan yng nghanol Penygroes yn edrych](https://www.grwpcynefin.org/wp-content/uploads/2022/03/canolfan-lleu-5.bmp)