Cydweithio i drawsnewid Llanrwst gyda blodau a gwenyn!

Mae tair cymdeithas dai wedi dod at ei gilydd i weithio gyda’r gymuned leol yn Llanrwst, i roi hwb i fywyd gwyllt lleol a thrawsnewid y dref gyda blodau.

Ar 8 Tachwedd, daeth gwirfoddolwyr o gymdeithasau tai Grŵp  Cynefin, ClwydAlyn a Chartrefi Conwy at ei gilydd gyda phlant o Ysgol Bro Gwydir, gan blannu 4,500 o fylbiau Cennin Pedr a Chrocysau.

Y gobaith yw y bydd y gwanwyn nesaf yn dod ag arddangosfa fywiog o liw wrth i’r blodau flodeuo ar hyd Stryd Dinbych.

Bydd hyn hefyd yn helpu i ddenu bywyd gwyllt fel gwenyn a gloÿnnod byw, gan gefnogi’r ecoleg a’r amgylchedd lleol.

Roedd y sesiwn plannu hwn yn rhan o fenter ehangach i wella mannau cyhoeddus, hyrwyddo cynaliadwyedd, a chefnogi cadwraeth a bioamrywiaeth mewn cymunedau lleol. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau tebyg mewn cymunedau ar draws gogledd Cymru.

Dywedodd Swyddog Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin, Lowri Evans:
“Mae’n wych cael partneru gyda ClwydAlyn a Chartrefi Conwy ar y prosiect pwysig hwn yn Llanrwst. Mae’n gyfle gwych i ddangos y weledigaeth rydyn ni yn ei rhannu i ddangos sut y gall gweithio hefo’n gilydd gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd lleol, gan greu llefydd mwy cynaliadwy ac ecogyfeillgar yn ein cymunedau.
“Mae’r prosiect bioamrywiaeth hwn yn un enghraifft yn unig o sut mae cymdeithasau tai yn gweithio gyda chymunedau lleol i greu amgylcheddau gwyrddach a chryfach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Meddai Tom Boome, Pennaeth Technegol, Arloesi a Hinsawdd ClwydAlyn:
“Mae’n wych gweithio ochr yn ochr â chymdeithasau eraill i  ymrwymo i gynaliadwyedd amgylcheddol. Mae plannu Cennin Pedr yn ffordd syml ond effeithiol o wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd gwyllt, a hefyd trawsnewid mannau gwyrdd. Fel rhan o’n prosiectau DIY SAS (Chwaraeon a Chymdeithasol) eleni rydym yn canolbwyntio ar ddiwrnodau gwirfoddoli. Mae’n wych gweld staff o ClwydAlyn yn mynd ati i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.”

Ychwanegodd Rheolwr Amgylchedd a Thirwedd Cartrefi Conwy, Matt Stowe:
“Mae gweithio ochr yn ochr â’n partneriaid i wella mannau gwyrdd Llanrwst yn fenter wych. Mae newid yn yr hinsawdd yn cael effaith fawr ar ein tymhorau, mae ein gaeafau’n mynd yn ysgafnach ac yn fyrrach, felly pan ddaw’r gwenyn allan yn y gwanwyn ar ôl y gaeaf, yn aml nid oes bwyd ar eu cyfer.

“Mae’r prosiect hwn nid yn unig yn helpu’r amgylchedd ond hefyd yn dod â phobl at ei gilydd i wneud newid cadarnhaol yn eu cymuned.”

Am fwy o wybodaeth ac i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â:

Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, Grŵp Cynefin

07970 142 305

Cookie Settings