Tai â chefnogaeth
Mae ein tai â chefnogaeth i bobl o bob oed sydd angen cymorth ychwanegol amrywiol.
Nod cynlluniau Tai â Chefnogaeth yw cefnogi pobl i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain a’u galluogi i wireddu eu dyheadau a ffynnu yn eu cymunedau.
Mae gennym dîm ymroddedig o swyddogion tai sy’n gweithio gydag amrywiol sefydliadau cymorth a gofal i ddarparu eiddo byw â chymorth a llety gyda chymorth cysylltiedig â thai i bobl ag anghenion cymorth ychwanegol amrywiol.
Mae hyn yn cynnwys pobl ag anableddau dysgu, unigolion o bob oed sy’n ddigartref, pobl sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a phobl ag anghenion iechyd meddwl.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 0300 111 21 22.